Mae 46 o bobol wedi cael eu harestio, ac mae 24 o bobol fregus wedi cael eu diogelu, ar ôl i Heddlu’r De gipio cyffuriau gwerth £715,000 wrth geisio torri llinellau sirol.
Llinellau sirol yw’r enw ar weithred grwpiau troseddol o symud cyffuriau o ddinasoedd i drefi bach neu ardaloedd gwledig.
Roedd yr Asiantaeth Dorcyfraith Genedlaethol (NCA) wedi cynnal wythnos o gyrchoedd a gweithgareddau ymwybyddiaeth rhwng Hydref 3-10 er mwyn ceisio dileu’r arfer o fewn ardal yr heddlu.
Cafodd pump o linellau sirol eu torri gan heddluoedd y de, Gwent a Dyfed-Powys, ar ôl iddyn nhw ddefnyddio’u pwerau wyth gwaith i chwilio eiddo.
Fe ddaethon nhw o hyd i £34,710 mewn arian parod, gwerth 7,020kg a £700,000 o gocên, arfau gan gynnwys cyllyll, batiau pêl-fas, modrwyau a dryllau ffug, ac fe wnaethon nhw feddiannu 52 ffôn symudol.
Cafodd 24 o bobol, gan gynnwys plant, eu diogelu gan yr heddlu.
Fel rhan o’r cyrchoedd, cafodd cŵn eu hanfon i orsafoedd trenau Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe mewn cydweithrediad â Heddlu Trafnidiaeth Prydain.
Codi ymwybyddiaeth
Mae’r heddlu hefyd wedi bod yn codi ymwybyddiaeth ymhlith plant, rhieni a phobol broffesiynol am beryglon llinellau sirol a’u gweithredoedd, gan gyflwyno sesiynau i fwy na 1,000 o bartneriaid aml-asiantaeth ac 11,000 o blant.
“Tra ein bod ni’n gweithio drwy gydol y flwyddyn i dynnu cyffuriau oddi ar y strydoedd, mae’r wythnos hon wedi arwain at rai canlyniadau sylweddol,” meddai’r Ditectif Arolygydd Richard Weber, cydlynydd yr wythnos yn Heddlu’r De.
“Drwy darfu ar linellau cyflenwi a thynnu’r rheiny oedd ynghlwm allan ohoni, gallwn ni wneud cymunedau de Cymru’n fwy diogel.
“Dim ond gyda’r gefnogaeth a’r wybodaeth rydym yn ei chael gan drigolion y gallwn ni wneud hyn, felly byddwn i’n annog unrhyw un â gwybodaeth am gyflenwi cyffuriau yn eu cymunedau i’n ffonio ni ar 101.
“Rydym yn trin pob darn o wybodaeth fel un pwysig.”