Mae Mark Drakeford wedi dweud wrth orsaf radio RTÉ yn Iwerddon nad yw e “byth” eisiau annibyniaeth i Gymru.

Fe ddaeth sylwadau Prif Weinidog Cymru ar y rhaglen Morning Ireland, lle bu’n trafod nifer o faterion gwleidyddol, gan gynnwys Protocol Gogledd Iwerddon, gan ddweud y byddai cytundeb ar y mater o fudd i Gymru gan fod “cymaint o fasnachu” rhwng Iwerddon a’r Deyrnas Unedig ac Ewrop trwy borthladdoedd Cymru.

Dros y ddau ddiwrnod nesaf, fe fydd Fforwm Iwerddon-Cymru yn gyfle i gynnal nifer o gyfarfodydd yn Nulyn a Cork, flwyddyn ar ôl i ddirprwyaeth o Iwerddon deithio i Gymru am y digwyddiad cyntaf o’i fath.

Mae chwe phrif faes yn rhan o’r fforwm, sy’n trafod materion sy’n gyffredin i Gymru ac Iwerddon, sef newid hinsawdd, tai, ynni, addysg, ac iaith a diwylliant.

Bwriad y fforwm yw cynnal cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon ar ôl Brexit, ac mae’n cael ei drefnu ar y cyd rhwng y ddwy wlad.

“Fe fu cynnydd mawr ar draws yr holl gytundeb,” meddai Mark Drakeford, gan ychwanegu y byddai gweinidogion yn rhannu syniadau a safbwyntiau ar y meysydd dan sylw.

Annibyniaeth

Yn ystod y cyfweliad, dywedodd Mark Drakeford fod Deyrnas Unedig sefydlog a llwyddiannus er lles Cymru, a’i bod hi o fudd i Ewrop fod llywodraethau cyfagos yn cyfathrebu’n adeiladol.

Ond fe ddywedodd ei fod e’n edrych ymlaen at yr adeg pan fydd gan Liz Truss, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, “eiliad” i’w ffonio yn yr un modd ag y gwnaeth cyn-brif weinidogion.

Daw hyn yn sgil y ffaith nad yw Liz Truss wedi siarad â Mark Drakeford ers iddi ddod yn brif weinidog, gan olynu Boris Johnson.

“Byddwn ni’n falch iawn o glywed ganddi,” meddai.

Wrth drafod datganoli, dywedodd ei fod yn obeithiol y bydd Cymru’n aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig, ond fod rhaid cael “datganoli pwerus wedi’i wreiddio lle mae penderfyniadau sydd ond yn effeithio ar bobol yng Nghymru’n cael eu gwneud gan bobol yng Nghymru”, ond fod “y Deyrnas Unedig a Chymru yn elwa ar fod yn rhan o’i gilydd”.

Ychwanegodd na fydd e byth yn credu mai annibyniaeth yw’r ateb.