Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi lambastio Jacob Rees-Mogg am ei “esboniadau anghredadwy” ynghylch pam fod y Deyrnas Unedig mewn argyfwng ariannol.
Daw hyn wrth i gronfeydd pensiynau’r Deyrnas Unedig barhau i fod dan fygythiad yn sgil ansicrwydd yn y farchnad.
Ddoe (dydd Mercher, Hydref 12), awgrymodd Ysgrifennydd Busnes San Steffan mai’r ffaith nad oedd Banc Lloegr wedi codi cyfraddau llog mor gyflym ag yn yr Unol Daleithiau, yn hytrach nag addewidion torri treth gan y Llywodraeth, oedd wedi achosi’r ansicrwydd yma.
“Nid y gyllideb fach o reidrwydd sydd wedi achosi’r effaith ar gronfeydd pensiwn,” meddai.
“Gallai’r ffaith na chafodd cyfraddau llog eu codi mor gyflym â’r Unol Daleithiau yr un mor hawdd fod wedi achosi’r effaith hwn ar gronfeydd pensiynau.”
Fodd bynnag, dydy’r esboniad hwnnw ddim yn gwneud unrhyw synnwyr, yn ôl Mark Drakeford.
“Rwy’n ofni nad yw’n esboniad credadwy,” meddai’r Prif Weinidog wrth siarad ar RTÉ fore heddiw (dydd Iau, Hydref 13).
“Y peth cyntaf sydd ei angen er mwyn i bethau allu gwella yw gallu adnabod achos sylfaenol yr anhawster.
“Dydy anfon gweinidogion i gynnig esboniadau anymarferol ddim yn help.”
‘Gaeaf heriol iawn’
Aeth yn ei flaen i rybuddio bod yr argyfwng ariannol yn achosi “cyfres o bryderon i ni” yng Nghymru.
“Yn gyntaf oll, rydyn ni’n bryderus dros y bobol hynny sydd angen help y Llywodraeth fwyaf – y bobol hynny sy’n wynebu gaeaf anodd oherwydd prisiau ynni, bwyd, chwyddiant, ac yn y blaen,” meddai.
“Rydyn ni’n bryderus am ein gwasanaethau cyhoeddus, oherwydd mae angen buddsoddiad arnyn nhw i sicrhau eu bod yn gallu cynorthwyo pobol drwy’r gaeaf anodd hwnnw.
“Rydym yn gwybod fod cwmnïau’n parhau i adrodd pryderon, ac anawsterau recriwtio pobol i wneud y swyddi mae’n rhaid eu gwneud.
“Mae effaith chwyddiant a phrisiau ynni yn cynyddu arnyn nhw hefyd.
“Rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n wynebu gaeaf heriol iawn.”