Mae sefydliadau – gan gynnwys awdurdodau lleol, cynghorau cymuned, grwpiau ffydd a chlybiau chwaraeon – yn sefydlu, neu’n ystyried sefydlu, ‘Canolfannau Cynnes’ o fewn cymunedau lleol i helpu’r rhai sy’n cael trafferth gyda chostau byw.

Bwriad hybiau cynnes yw cynnig rhywle diogel, hygyrch a chynnes i bobol fynd yn ystod y dydd i helpu i leihau cost gwresogi eu cartrefi eu hunain ac i helpu’r rhai sy’n wynebu tlodi tanwydd y gaeaf hwn.

Fis diwethaf, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid cychwynnol gwerth £1m i gefnogi Hybiau Cynnes.

Mae Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, bellach wedi amlinellu sut y bydd y cyllid hwnnw’n cael ei ddyrannu a’r hyn y caiff ei ddefnyddio ar ei gyfer.

“Dylent fod yn agored ac yn gynhwysol ac ystyried anghenion lleol a diwylliannol,” meddai.

Yn ystod ei chyhoeddiad, esboniodd Jane Hutt ble y dylid gosod Hybiau Cynnes, a’r hyn y dylid ei ddarparu oddi mewn iddyn nhw.

“Awdurdodau lleol sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda’r sector cyhoeddus, y sector gwirfoddol a phartneriaid cymunedol fydd yn y sefyllfa orau i fesur a deall yr anghenion lleol, y ddarpariaeth bresennol ac i gynllunio a darparu atebion lleol,” meddai.

“Felly bydd cyllid ar gyfer Hybiau Cynnes yn cael ei ddosbarthu drwy awdurdodau lleol yng Nghymru.

“Bydd cyllid yn cael ei ddosbarthu yn unol â’r fformiwla bresennol y cytunwyd ar yr awdurdod lleol.

“Efallai ei bod yn fwy addas mewn rhai lleoedd i sefydliadau a gwirfoddolwyr weithio gyda Hybiau Cynnes presennol yn hytrach na sefydlu rhai ychwanegol.

“I gael rhagor o wybodaeth am y trefniadau lleol am Hwb Cynnes a chyllid lleol, byddwn yn annog pobol i gysylltu gyda’u hawdurdod lleol i gofrestru eu diddordeb.”