Mae teulu dyn ifanc o Lanrug yn galw ar Qatar Airways i gymryd cyfrifoldeb ac adolygu eu mesurau diogelu wedi iddo gael ei adael heb y cymorth gafodd ei addo iddo am dros 19 awr.

Wrth deithio’n ôl ar ei ben ei hun o wyliau i weld ei ffrindiau yn y Ffilipinas, fe wnaeth ei deulu archebu taith cynorthwyedig gan Qatar Airways, sy’n nodi eu bod yn “ymdrechu i ddarparu ar gyfer cwsmeriaid ag anghenion arbennig yn y maes awyr ac ar fwrdd (eu) hawyren”.

Cafodd Craig Herrington ei eni gyda syndrom Usher, sy’n golygu ei fod yn fyddar ac yn colli ei olwg yn raddol.

Erbyn heddiw, mae o bron yn ddall ac ychydig iawn o olwg sydd ganddo ar ôl, felly mae’n dibynnu ar ddefnyddio iPad er mwyn cyfathrebu.

Ond chafodd o mo’r cymorth gafodd ei addo iddo, ac mae ei deulu bellach eisiau sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto.

“Mae angen gwneud rhywbeth i helpu pobol efo anableddau i drafeilio a byw’n annibynol,” meddai ei modryb, Leah, wrth golwg360.

“Dim fo sydd angen newid, y byd sydd angen newid.”

Colli cysylltiad â’i deulu

Dechreuodd ei daith adref o faes awyr rhyngwladol Manila-Ninoy Aquino gyda Qatar Airways.

Aeth y rhan hon o’r daith yn iawn, gyda chymorth yn aros amdano ym maes awyr Manila i’w helpu i fynd ar yr awyren ac oddi arni, ac ym Maes Awyr Rhyngwladol Doha-Hamad.

Cyrhaeddodd Faes Awyr Rhyngwladol Doha-Hamad am 1:25yp, cyn cael ei arwain i ‘lolfa ymlacio’, lle treuliodd rai oriau cyn ei daith am Fanceinion am 01:25yb.

Ond dyma’r adeg y dechreuodd y cymorth fynd o’i le.

Am 01:35yb, anfonodd neges bryderus adref i ddweud ei fod yn credu bod ei awyren wedi gadael yn barod, ond nad oedd unrhyw gymorth wedi dod.

Yn y 12 awr hynny, doedd y staff ddim wedi dod ato nac wedi ei gynorthwyo eto, meddai ei deulu, er ei fod wedi galw am gymorth ar sawl achlysur.

Fe wnaeth o hefyd alw allan dair gwaith fod angen iddo ddefnyddio’r toiledau.

Fe ddaeth un aelod o staff i’w helpu un tro, ond chafodd e ddim unrhyw gymorth ar ôl hynny.

Erbyn hyn, roedd ei iPad wedi rhedeg allan o fatri a doedd o ddim yn gallu gweld unrhyw fan i’w wefru, felly fe gollodd bob ffordd o gyfathrebu.

Treuliodd ei deulu bedair awr wedyn yn ceisio dod o hyd i unrhyw un a fyddai’n eu helpu.

‘Neb eisiau mynd yr ail filltir’

Fe wnaeth y teulu gysylltu gyda Maes Awyr Rhyngwladol Doha-Hamad a Qatar Airways heb unrhyw help.

“Doedden ni ddim yn gwybod a oedd ei daith wedi’i gohirio neu a oedden wedi’i anghofio,” meddai Leah.

“Roedd cysylltu â Qatar yn ofer unwaith eto, ac er gwaethaf pledio am help, dywedon nhw nad oedd dim y gallen nhw ei wneud.

“Gofynnais a allen nhw wirio a oedd yr awyren honno wedi’i gohirio, dywedon nhw ei bod wedi gadael ar yr amser a gynlluniwyd, felly nawr roeddem yn gwybod ei fod wedi cael ei anghofio.

“Doedd neb eisiau mynd yr ail filltir i helpu.

“Roedd o’n teimlo fel bod pawb yn meddwl nad eu problem nhw oedd o.”

Eu cam nesaf oedd troi at yr heddlu ym Maes Awyr Doha-Hamad, ac fe ddaethon nhw o hyd iddo, gan sicrhau ei fod yn cael cymorth, yn gwefru ei iPad ac yn cael ei drosglwyddo i awyren arall.

Ac felly, dros 19 awr yn ddiweddarach, roedd Craig ar ei ffordd adref.

“Fyddan nhw fyth yn gwybod faint rydyn ni’n gwerthfawrogi hyn.”

Angen adolygiad, hyfforddiant a phroses ddiogelu

Bwriad y teulu ar y dechrau oedd cwyno wrth Qatar Airways, ond does ganddyn nhw ddim ffydd y byddai’r mater yn cael sylw.

“Wnaethon nhw ddim cymryd unrhyw gyfrifoldeb,” meddai Leah.

“Dydyn ni heb gael unrhyw sori.

“Yn gyntaf, rydan ni eisiau adolygiad i sut mae hyn wedi digwydd.

“Yn ail, mae angen hyfforddiant a phroses ddiogelu, fel bod staff yn gwybod sut i ddelio efo fo pan fydd rhywbeth fel hyn yn digwydd.

“Sut fyddech chi’n teimlo pe bai eich plentyn, oedolyn ifanc neu berthynas anabl wedi ‘anghofio’ fel hyn, yn cael ei adael yn eistedd am dros 19 awr heb unrhyw gymorth fel hyn oedd wedi cael ei addo.

“Dydyn ni ddim yn chwilio am iawndal, nid yw hwn yn ‘un o’r negeseuon rheiny’ – yr hyn rydym ni eisiau yw i’r cwmni awyr hwn fod yn atebol, i adolygu eu mesurau diogelu a sicrhau na fydd hyn byth yn digwydd eto.”