Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, yn dweud bod rhaid bod sylwadau Mark Drakeford na fyddai “byth” yn cefnogi annibyniaeth i Gymru yn “ergyd” i’r rhai o fewn y Blaid Lafur sydd eisiau gadael y Deyrnas Unedig.

Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru y sylwadau wrth siarad â’r orsaf radio Wyddelig RTÉ ar drothwy cynhadledd i drafod y cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon a’r meysydd lle mae’r ddwy wlad yn cydweithio.

Yn ystod y cyfweliad, bu’n trafod nifer o faterion gwleidyddol, gan gynnwys Protocol Gogledd Iwerddon, gan ddweud y byddai cytundeb ar y mater o fudd i Gymru gan fod “cymaint o fasnachu” rhwng Iwerddon a’r Deyrnas Unedig ac Ewrop trwy borthladdoedd Cymru.

Dros y ddau ddiwrnod nesaf, fe fydd Fforwm Iwerddon-Cymru yn gyfle i gynnal nifer o gyfarfodydd yn Nulyn a Cork, flwyddyn ar ôl i ddirprwyaeth o Iwerddon deithio i Gymru am y digwyddiad cyntaf o’i fath.

Mae chwe phrif faes yn rhan o’r fforwm, sy’n trafod materion sy’n gyffredin i Gymru ac Iwerddon, sef newid hinsawdd, tai, ynni, addysg, ac iaith a diwylliant.

Bwriad y fforwm yw cynnal cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon ar ôl Brexit, ac mae’n cael ei drefnu ar y cyd rhwng y ddwy wlad.

Dywedodd Mark Drakeford fod Deyrnas Unedig sefydlog a llwyddiannus er lles Cymru, a’i bod hi o fudd i Ewrop fod llywodraethau cyfagos yn cyfathrebu’n adeiladol.

Ond fe ddywedodd ei fod e’n edrych ymlaen at yr adeg pan fydd gan Liz Truss, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, “eiliad” i’w ffonio yn yr un modd ag y gwnaeth cyn-brif weinidogion.

Daw hyn yn sgil y ffaith nad yw Liz Truss wedi siarad â Mark Drakeford ers iddi ddod yn brif weinidog, gan olynu Boris Johnson.

“Byddwn ni’n falch iawn o glywed ganddi,” meddai.

Wrth drafod datganoli, dywedodd ei fod yn obeithiol y bydd Cymru’n aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig, ond fod rhaid cael “datganoli pwerus wedi’i wreiddio lle mae penderfyniadau sydd ond yn effeithio ar bobol yng Nghymru’n cael eu gwneud gan bobol yng Nghymru”, ond fod “y Deyrnas Unedig a Chymru yn elwa ar fod yn rhan o’i gilydd”.

Ychwanegodd na fydd e byth yn credu mai annibyniaeth yw’r ateb.

‘Ergyd aruthrol’

“Mae’n rhaid bod dihuno i hyn yn ergyd aruthrol i’r 40% o bleidleiswyr Llafur sy’n cefnogi annibyniaeth,” meddai Adam Price wrth ymateb i’r sylwadau.

“Fydd bod ynghlwm wrth Undeb sy’n galluogi elfen ddinistriol o Geidwadaeth i wneud llanast yng nghymunedau Cymru fyth yn dda i Gymru, yn fwy nag yw hi wedi gwneud yn dda i bobol Iwerddon. 

“Annibyniaeth yw’r unig ffordd y gallwn ni greu Cymru decach, wyrddach i bawb.

“Nid yn unig y byddai annibyniaeth yn gymdeithasol ddichonadwy ond hefyd yn economaidd, fel mae ymchwil a gafodd ei chomisiynu gan Blaid Cymru yn ddiweddar yn dangos.

“Mae’r Prif Weinidog yn anghywir.

“Dylai’r holl benderfyniadau sy’n effeithio ar Gymru gael eu gwneud yng Nghymru, a’r unig ffordd o wireddu hyn yw annibyniaeth.”

Mark Drakeford

Mark Drakeford “byth” eisiau annibyniaeth i Gymru – er nad yw Liz Truss wedi cysylltu â fe

Daw sylwadau Prif Weinidog Cymru wrth siarad â gorsaf radio RTÉ yn Iwerddon