Mae’r BBC wedi cael eu gorfodi i ariannu rhaglenni Cymraeg er mwyn lleihau ffi’r drwydded “yn llechwraidd”, yn ôl honiad gan y cyn-ddarlledwr David Dimbleby yn ei lyfr newydd.
Dywed cyn-gyflwynydd Question Time, sy’n 83 oed, fod y gorfforaeth wedi ei “berswadio” i gymryd “rhwymedigaethau heb eu hariannu” yn lle gwario’r arian ar raglenni a staff eraill.
Dechreuodd y cyfrifoldeb am ariannu’r sianel deledu Cymraeg S4C gael ei drosglwyddo o Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ffi drwydded y BBC yn 2013.
“Nid oes yr un llywodraeth eto wedi cael y bustl yn amlwg i dorri ffi’r drwydded ond mae wedi’i leihau’n barhaus yn llechwraidd,” meddai David Dimbleby, oedd yn sylwebydd gyda’r BBC yn ystod angladd Brenhines Lloegr, yn ei lyfr newydd.
“Mae dwy ffordd o gyflawni hyn – un yn syml yw peidio â’i chynyddu tra bod chwyddiant yn erydu ei gwerth.
“Yr arfau ariannol eraill y mae gwleidyddion wedi’u defnyddio i niweidio’r BBC yw gosod rhwymedigaethau ychwanegol, heb eu hariannu, arni.
“Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r BBC wedi cael eu tanseilio, eu perswadio neu eu gorfodi i ariannu sianeli iaith genedlaethol newydd yn llawn yng Nghymru a’r Alban ar gyfer y lleiafrifoedd sy’n siarad Cymraeg a Gaeleg.”
Yn y llyfr, Keep Talking, mae o’n parhau trwy ddweud bod “talwr ffi’r drwydded mewn teulu tlawd nawr yn talu am yr hyn roedd y llywodraeth yn arfer ei ariannu”.
Cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gynharach eleni y byddai S4C yn derbyn £74.5m o gyllid Ffi’r Drwydded flynyddol yn ogystal â £6.8m gan yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.
Dywedodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd y byddai’n dyfarnu £7.5m bellach y flwyddyn i S4C o ffi’r drwydded i gefnogi ei datblygiad digidol, yn dilyn rhewi cyllid am bum mlynedd.