Mae perchnogion unig siop lyfrau Gymraeg Llandudno yn chwilio am brynwyr i’r adeilad.

Mewn neges ar ei gyfrif Facebook ddoe (dydd Iau, Hydref 13), dywedodd Trystan Lewis fod adeilad Siop Lewis bellach ar werth.

Diolchodd yn daer i gwsmeriaid ffyddlon am eu cefnogaeth ers 15 mlynedd a mwy, gan erfyn ar bobol i gefnogi’r siop hyd nes y byddan nhw’n “cau’r drws am y tro olaf”.

Maen nhw’n bwriadu cadw’r drws yn agored hyd nes y bydd prynwr wedi ei sicrhau.

“Rydym ni wedi ceisio bod yn nodded a chanolfan i’r Gymraeg mewn ardal ddigon anodd o ran Cymreictod,” meddai Trystan Lewis, sy’n byw yn Llanfair Talhaiarn, yn ei neges Facebook.

“Rydym wedi ceisio cynnig man i werthu llyfrau Cymraeg, cardiau, CDs a nwyddau Cymreig, yn ogystal â bod yn fangre i ddysgwyr cael cyfarfod am baned a sgwrs.

“Rydym yn falch o ddweud ein bod wedi gwerthu llwythi o lyfrau plant yn Gymraeg, ac mae hynny yn destun balchder i ni, oherwydd yn fan’no mae dyfodol y Gymraeg.”

Ei wraig Llinos Lewis a oedd yn bennaf gyfrifol am redeg y siop, ac mi fydd hi yn parhau i gynnig gwasanaeth nwyddau ar-lein ar eu gwefan, ac yn “gobeithio ehangu’r ochor yna o’r busnes”.

Mae hi hefyd am fod yn gwneud gwaith cyfieithu ar ei liwt ei hun.

Mae Trystan Lewis am barhau â’i waith yn Gynghorydd Annibynnol ar gyfer Ward Llansannan, fel cerddor llawrydd, ac yn cynorthwyo mewn angladdau.

Mae yn gerddor amlwg ac mi fuodd yn arweinydd Côr Meibion Maelgwn am 15 mlynedd.

Eglura eu bod nhw wedi magu pedwar o blant ‘yn sŵn a miri’r siop’, gan ddiolch i’r teidiau a’r neiniau, gan na fyddai’r gwaith “wedi bod yn bosib o gwbl” hebddyn nhw.

Llandudno’n “dlotach” hebddo

Mae degau o gwsmeriaid y siop wedi gadael cyfarchion o dan ei neges, yn dymuno hei lwc i’r teulu ac yn diolch iddyn nhw am flynyddoedd o waith yn y siop.

Dyma rai o’r sylwadau a adawyd:

‘Diolch am ddarparu gwasanaeth gwerthfawr iawn yn yparthau acw.’

‘Gobeithio daw prynwr yn fuan i gario ymlaen y gwaith clodwiw.’

‘Diwedd cyfnod go iawn. Wedi bod yn gwsmer ers 1972 – dyddiau yr annwyl Dafydd Hughes.’

‘Bydd Llandudno yn dlotach hebddoch.’

Geiriau olaf Trystan Lewis yn ei neges ar Facebook oedd: ‘Dyden ni ddim eisiau cydymdeimlad, eisiau prynwr yden ni! Cyfle i brynu adeilad pedwar llawr urddasol Fictorianaidd gyda llawer o botensial.’

Cyfeiriad y siop yw 21, Stryd Madog, Llandudno.

Rhwng 1968 a 2001 roedd yr adeilad yn gartref i Siop Llyfrau Ail Law Dafydd Hughes, a oedd yn fan cyfarfod poblogaidd yn y dref pan oedd y siop ar ei anterth.

“Dw i ar dân dros ein cymunedau ni, dros Gymru a Chymreictod”

Huw Bebb

Y Cynghorydd Trystan Lewis, sy’n adnabyddus am arwain corau, sy’n sôn am ei obeithion wedi iddo gael ei wahardd o Blaid Cymru