Mae cymdeithas cerdd dafod Barddas yn cynnal Gŵyl Gerallt – gŵyl lenyddol flynyddol – yn Aberystwyth heno ac yfory.
Draw yng Nghanolfan y Celfyddydau heno bydd Ymryson y Beirdd rhwng dau dîm – staff Prifysgol Aberystwyth a chriw o gyn-fyfyrwyr.
Y Prifardd Tudur Dylan Jones fydd yn sedd y Meuryn, ac ar dîm y staff bydd y Prifardd Mererid Hopwood, y Prifardd Hywel Griffiths, Eurig Salisbury, a’r Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan.
Ar dîm y cyn-fyfyrwyr bydd Gruffudd Antur, Y Prifardd Twm Morys, Enfys Hatcher, a’r Prifardd Llion Jones.
Yfory (dydd Sadwrn 15 Hydref) bydd rhaglen o ddigwyddiadau amrywiol yn cynnwys sgyrsiau, cyflwyniadau a lansiadau llyfrau.
Thema’r ŵyl eleni yw ‘lleisiau’ a bydd y rhaglen yn cynnwys sesiwn ‘Lleisiau’r Gorffennol’ yng nghwmni’r Prifardd Llŷr Gwyn Lewis, Dr Alaw Mai Edwards a D Geraint Lewis yn trafod gweithiau mawrion y gorffennol gyda chyfle i glywed clipiau sain o rai o’r lleisiau hynny.
Annog beirdd ifanc
Hefyd ar y rhaglen, bydd sesiwn yn trafod ‘Lleisiau’r Dyfodol’ gydag Aneirin Karadog, cyn-Fardd Plant Cymru, a’r Bardd Plant cyfredol, Casi Wyn.
Yn ymuno â nhw i sgwrsio bydd Elin a Delun, disgyblion o Ysgol Uwchradd Henry Richard, Tregaron.
Hefyd bydd cyfle i glywed cerdd newydd sbon a gyfansoddwyd gan ddisgyblion Ysgol Gymraeg Aberystwyth gyda Casi mewn gweithdy arbennig ar gyfer Gŵyl Gerallt.
Bydd cyfle i fwy o blant yr ardal gymryd rhan mewn gweithdy gyda Casi am 10 fore Sadwrn.
Bydd y gweithdy am ddim ac yn addas ar gyfer plant blynyddoedd 3-6.
Dywedodd Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru sy’n arwain cynllun Bardd Plant Cymru:
“Braint yw cael parhau i gefnogi Barddas trwy gynnig arlwy i’r ifanc yng Ngŵyl Gerallt eleni. Nod cynllun Bardd Plant Cymru yw cynyddu mwynhad plant a phobl ifanc o farddoniaeth a’u grymuso trwy greadigrwydd, ac rwy’n ffyddiog y bydd plant Ceredigion wrth eu bodd yn barddoni gyda Casi. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at weld beth ddaw o’r gweithdai!”
Lansio llyfrau newydd
Yn ystod yr ŵyl bydd Barddas hefyd yn lansio dau lyfr newydd sbon – Cynghanedd i Blant (gol. Mererid Hopwood) ac Anwyddoldeb, casgliad cyntaf Elinor Wyn Reynolds o’i cherddi.
Hefyd fe fydd Mererid Hopwood yn holi Prifeirdd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022, Esyllt Maelor a Llŷr Gwyn Lewis, am eu profiadau yn ennill y prif gystadlaethau eleni.
Bydd sesiwn yng nghwmni golygydd y cylchgrawn Barddas, y Prifardd Twm Morys, yn trafod y berthynas rhwng y llais a’r llun. Yn ymuno ag ef bydd y Prifardd Idris Reynolds, yr artist Meinir Mathias, a’r ffotograffydd Iestyn Hughes.
Hefyd dros y penwythnos, bydd dangosiadau o ffilmiau byrion gan artistiaid a beirdd sy’n arbrofi ac yn cyflwyno barddoniaeth mewn ffyrdd gweledol ynghyd ag arddangosfa o farddoniaeth pobl ifanc Ceredigion.