Y Cymro Luke Evans yw un o’r ffefrynnau i fod y James Bond nesaf, yn ôl bwcis Williams Hill, gyda’i ods wedi gostwng o 25-1 i 9-1 yr wythnos hon.

Mae’r gŵr o Aberbargoed yn adnabyddus am actio yn Beauty and the Beast, Clash of Clans a Dracula Untold.

Ac mae Luke Evans wedi disgrifio rôl James Bond fel un “anhygoel”.

Mae yna gryn dipyn o ddyfalu wedi bod ynghylch pwy fydd yn olynu Daniel Craig fel yr ysbïwr byd enwog.

Bu hwnnw yn chwarae’r rôl am 15 mlynedd.

Y ffefryn i fod y James Bond newydd yw Rege-Jean Page, tra bod Idris Elba a Tom Hardy hefyd yn geffylau blaen yn y ras i olynu Daniel Craig.

“Byddai Luke Evans yn gwneud James Bond gwych, gan fod ganddo ddigon o brofiad ac mae o yn yr oedran delfrydol i ymgymryd â’r rôl,” meddai Tony Kenny, Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus William Hill.

“Evans fyddai’r ail actor o Gymru i serennu fel yr asiant cudd eiconig pe bai’n sicrhau’r rôl, a byddai’n braf newid pethau ar ôl cyfnod llwyddiannus Daniel Craig.”

Timothy Dalton o Fae Colwyn yw’r unig Gymro hyd yma i actio James Bond yn The Living Daylights (1987) a Licence to Kill (1989).