Bydd cyfres newydd sbon ar S4C, Nôl i’r Gwersyll, sy’n dechrau heno (nos Sul, Hydref 16) yn rhoi’r cyfle i griw o gyn-wersyllwyr, eu teuluoedd a’u ffrindiau gamu ’nôl i brofi penwythnos yn y gwersyll i hel atgofion a chreu rhai newydd.
Mae Gwersyll yr Urdd Llangrannog yn eicon Cymreig sydd wedi hudo miloedd o bobol ifanc Cymru drwy’r degawdau a thros y blynyddoedd mae’r gwersyll wedi bod yn lle i bawb fwynhau yn yr iaith Gymraeg, creu atgofion melys a chwrdd â ffrindiau oes.
O’r dyddiau cynnar mewn cabanau pren a phabelli cynfas, mae’r profiad o gael wythnos o ryddid wedi newid yn fawr, a gall gwersyllwyr heddiw ddisgwyl cawodydd poeth en suite, canolfannau chwaraeon modern a thraciau beiciau cwad.
Ond pa brofiadau oedd yn disgwyl ymwelwyr cyntaf y gwersyll yn y degawdau cynnar?
Mae pob pennod yn y gyfres, sy’n rhan o ddathliadau canmlwyddiant yr Urdd, yn mynd a’n gwersyllwyr nôl mewn amser i un degawd rhwng 1950 i 1980, ac ym mhob pennod, byddan nhw’n cael profiad gwyliau o’r gorffennol gyda’r bwyd, y dillad, y gweithgareddau a’r adloniant i gyd yn driw i’r cyfnod.
I ofalu ac i arwain y gwersyllwyr, wrth gwrs, mae’r swogs – ac fe fydd sawl wyneb cyfarwydd yn eu plith – Dewi ‘Pws’ Morris a Huw Llywelyn Davies yn y bennod gyntaf, Mici Plwm a Dilwyn Morgan yn yr ail bennod, a Geraint Davies, Cleif Harpwood ac Angharad Mair yn y drydedd.
Ieuan Rhys, Martyn Geraint a Keith ‘Bach’ Davies sy’n swogio yn y bedwaredd.
Ymateb y selebs
“Mae cysylltiadau hir iawn gyda fi â’r Urdd,” meddai Dewi Pws.
“O’n i ddim yn cael dod pan o’n i yn yr ysgol oherwydd o’n i’n fachgen drwg yn yr ysgol! Ond fe ddes i yma fel swog.
“Fan hyn ddysgais i chwarae’r gitâr – dysgu chords gan bobol fel Dafydd Iwan.”
Aeth Cleif Harpwood i Langrannog am y tro cyntaf yn 1971.
“Bydden ni’n codi’r pebyll ac o’n i’n rhedeg y siop yma am gyfnod,” meddai.
“Ond y job fwya’ difyr oedd bod yn wylwyr nos yma achos oedd pob math o ddrygioni yn mynd ymlaen yma gyda’r nos!”
Roedd Mici Plwm wrth ei fodd i fod yn ôl yn Llangrannog.
“O’n i erioed yn wersyllwr ond es i syth mewn i fod yn swog yn y 60au,” meddai.
“O, am fynd i’r gwersyll ac i fod yn wersyllwr neu swog ‘de?
“Does dim ffasiwn lle yn unrhyw wlad arall yn y byd i gyd.
“Trwy’r Urdd a’r gwersylloedd dwi wedi gwneud fy nghyfeillion gorau heb os nac oni bai.”
Yn ogystal â’r swogs, bydd gwesteion arbennig yn ymweld â’r gwersyll, gan gynnwys y gantores Lily Beau a’r anturiaethwr Richard Parks sy’n rhoi tips i’r gwersyllwyr ar sut i gadw’n gynnes yn ystod y nos!
Symud gyda’r oes
Yn ystod y gyfres, cawn weld y datblygiadau yn y gwersyll o’r cabannau, pebyll a’r tai bach allanol yn y 1950au i’r datblygiadau mawr yn y gwersyll yn yr 1980au – bloc cysgu a champfa newydd.
Ac er fod pethau wedi newid yn fawr dros y degawdau, mae rhai pethau wedi parhau fel mynd am dro i’r traeth sy’n rhan annatod o bob pennod, glanhau’r cabannau a’r pebyll, siop y gwersyll ac wrth gwrs yr Epilog nosweithiol.
“Pwrpas yr epilog erstalwm oedd, ar ôl yr holl weithgareddau yma – yn enwedig pan oedd y lle yma llawn plant – oedd eisiau tynnu’r egni lawr cyn mynd i glwydo,” meddai Geraint Davies.
“Dwi ddim wedi canu honna ers hanner canrif a mwy ond eto o’n i’n teimlo pawb yn ymlacio, wedi cael diwrnod da ac yn barod ar gyfer diwrnod arall.”
Roedd pob math o weithgareddau yn cael eu cynnal dros y degawdau ac mae’r gwersyllwyr yn cael y cyfle i brofi mabolgampau a saethyddiaeth yn yr 1950au; helfa drysor, noson lawen a merlota yn yr 1960au; a ‘Dawns Llangrannog’ yn yr 1970au.
Ar ddiwedd yr 1980au, daeth gweithgaredd newydd i’r gwersyll – un sydd wedi bod yn ffefryn i nifer – sgïo!
“Wi jysd yn meddwl pa mor lwcus yw plant Cymru i gael hwn,” meddai Ieuan Rhys.
“Mae cymaint wedi newid ers yr adeg o’n i’n swogio fan hyn ac mae’n anhygoel yma.”
Ymateb y gwersyllwyr
A beth am ymateb y gwersyllwyr?
Fe wnaeth Aled Webb Price a’i deulu gymryd rhan yn rhaglen yr 80au.
“Fel arfer rydan ni’n nagio’r plant – yn yr 1980au, o’n i ddim yn gallu aros mewn trwy’r amser – o’n i ma’s trwy’r amser,” meddai.
“Ac maen nhw wastad yn dweud ‘wel – beth oedd e fel yn yr 80au?’ – a nawr maen nhw wedi profi hynna eu hunain.
“Does dim unrhyw sôn wedi bod am gadjets neu dechnoleg o gwbl – mae e wedi bod yn hyfryd.”
Bydd Nôl i’r Gwersyll (Boom Cymru) ar S4C heno (nos Sul, Hydref 16) am 8 o’r gloch, gydag is-deitlau Saesneg, a bydd y rhaglen ar gael ar alw ar S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill.