Yn gynharach eleni, daeth cyhoeddiad fod Cymru’n bartner rhyngwladol Showcase Scotland yn Celtic Connections 2023, ochr yn ochr â’n ffrindiau yn Llydaw.
Daw’r digwyddiad yn dilyn blwyddyn ddigidol Showcase Scotland ym mis Ionawr 2022, pan berfformiodd chwe artist o Gymru fel rhan o raglen o gerddoriaeth Geltaidd ac ieithoedd brodorol a bontiodd gynulleidfaoedd yng Nghymru a’r Alban gyda’r byd.
Dechreuodd y gwaith o chwilio am artistiaid Arddangosiad Spotlight Cymru Wales 2023 ym mis Gorffennaf eleni, a chafodd ei arwain gan Tŷ Cerdd a’i gefnogi gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Focus Wales, a Trac Cymru.
Cafodd y detholiad terfynol ei ddewis gan Donald Shaw, Cynhyrchydd Creadigol Celtic Connections.
Cerys Hafana
Yn wreiddiol o Fachynlleth, mae Cerys Hafana yn gyfansoddwr ac aml-offerynnwr sy’n manglo a thrawsnewid cerddoriaeth draddodiadol.
Mae ei cherddoriaeth yn chwarae efo posibiliadau unigryw’r delyn deires, ac mae ganddi diddordeb mewn deunyddiau archifol a phrosesu electronig.
Daeth ei halbwm cyntaf ‘Cwmwl’ yn 2020.
Yn ddiweddar, mae hi wedi ffilmio pennod o’r rhaglen deledu boblogaidd Curadur, gan archwilio agweddau mwy rhyfedd ar gerddoriaeth werin Gymreig.
Mae hi hefyd wedi cyfrannu ysgrif i’r llyfr Welsh (Plural), gan sôn am hunaniaeth cwiyr mewn cerddoriaeth werin, ac wedi recordio sesiwn fyw yn stiwdios Maida Vale ar gyfer BBC Gorwelion.
Gwilym Bowen Rhys
Cerddor o Fethel yn Arfon ydy Gwilym Bowen Rhys.
Mae wedi bod yn hogi ei grefft ar lwyfannau ers ei arddegau, a bellach mae’n un o gantorion gwerin amlycaf Cymru.
Mae ei gerddoriaeth yn gymysgedd o’r hen a’r newydd, yn arbrofi gyda hen eiriau ac alawon ac yn eu cymysgu gyda’i gerddoriaeth ffres ac egnïol ei hun.
Fe enillodd y wobr am yr ‘artist unigol gorau’ yng Ngwobrau Gwerin Cymru yn 2019 ac mae wedi perfformio ei gerddoriaeth dros y byd.
Cyhoeddodd ei albym gyntaf ‘O Groth y Ddaear’ yn 2016, a gyrhaeddodd restr fer ‘Albym Cymraeg y flwyddyn’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Yn 2018, cyhoeddodd y cyntaf mewn cyfres o gasgliadau o hen faledi, ac yn 2019 cyhoeddodd ei drydedd albym, ‘Arenig’.
VRï
Tri gŵr ifanc o berfeddion Cymru traddodiad y capeli yw VRï, sydd wedi mynd ati i gloddio i gynnwrf diwylliannol y canrifoedd diwethaf ac wedi cael eu hysbrydoli gan stori anhygoel cyfnod pan gafodd cerddoriaeth a dawns draddodiadol Cymru eu darostwng gan gapeli’r Methodistiaid, ac, yn gynharach, ei hiaith gan y Ddeddf Uno.
Fel archaeolegwyr sain, mae VRï wedi darganfod perlau hirgolledig sy’n taflu goleuni newydd ar draddodiad gwerin bywiog sy’n harneisio egni amrwd y ffidil gyda cheinder y feiolin, harddwch cerddoriaeth siambr gyda llawenydd a phleserau sesiwn dafarn.
Mae eu caneuon, sy’n cael eu canu gyda harmonïau lleisiol pwerus, yn adrodd straeon am y bobol oedd yn brwydro 200 mlynedd yn ôl, yn yr un modd ag y mae llawer yn brwydro heddiw.
Mae’n seinwedd hyfryd ac unigryw sy’n cysylltu ar draws y canrifoedd i roi ymdeimlad o berthyn, o gymuned i ni, a theimlad hudolus o ysgafnder a rhyddid dyrchafol.
‘Harneisio hen draddodiadau gwerin Cymru a’r iaith Gymraeg’
“Rydym mor falch o weld y tri artist hyn yn cymryd y camau nesaf yn eu gyrfaoedd rhyngwladol wrth iddynt baratoi i berfformio yn nigwyddiad mawreddog Showcase Scotland yn Celtic Connections ym mis Ionawr,” meddai Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.
“Mae’r tri wedi rhyddhau albymau gwych yn ddiweddar i ganmoliaeth fawr, gyda phob un yn harneisio hen draddodiadau gwerin Cymru a’r iaith Gymraeg mewn ffordd gyfoes a bywiog.
“Edrychwn ymlaen at gwrdd â chynrychiolwyr rhyngwladol yn Glasgow ym mis Ionawr, ac i arddangos rhai o’r artistiaid gorau o Gymru ar y llwyfan byd-eang hwn.
“Rydym hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at rannu’r llwyfan gyda Llydaw eleni, a dathlu’r cysylltiadau diwylliannol agos rhyngom ni.”
Dathlu agosrwydd y tair cenedl
Dywed Lisa Whyttock, Cynhyrchydd Showcase Scotland yn Celtic Connections, eu bod nhw wrth eu bodd “yn cael proffilio artistiaid o’n Cefndryd Celtaidd, Cymru a Llydaw, fel rhan o’n digwyddiad yn 2022”.
“Rhwng y 25ain a’r 29ain o Ionawr, bydd 200 o wyliau a sefydliadau cerdd amlycaf y byd yn dod i Glasgow i weld rhai o’r talentau gorau o bob un o’r tair gwlad,” meddai.
“Byddant yn darganfod, archwilio, a dysgu am yr artistiaid, tra hefyd yn cael eu cyflwyno i’r berthynas gref a rennir rhwng y tair cenedl.
“Mae’n arbennig iawn i fod yn dathlu’r agosrwydd hwnnw a gweld ein hartistiaid yn rhannu gofodau yn yr hyn a fydd yn ddychweliad cyntaf i ddigwyddiad mewn person ers 2020.”