Mae portread newydd o Santes Non wedi cael ei osod ger y fan lle dywedir iddi roi genedigaeth i nawddsant Cymru.
Caiff Santes Non ei phortreadu yn feichiog gyda Dewi Sant ac yn sefyll ar ben clogwyn mewn tywydd stormus gan yr artist Meinir Mathias.
Mae’r llun newydd wedi cael ei arddangos ar fwrdd gwybodaeth newydd wrth ymyl y llwybr troed sy’n arwain at Gapel Santes Non a’r Ffynnon Sanctaidd yn Nhyddewi.
Yn ôl y chwedl, mae gan y capel a’r ffynnon gysylltiadau cryf â stori geni Dewi Sant, ac ystyrir i’r ffynnon fod â phwerau i iacháu pobol.
Cafodd y ddau sant ddylanwad ar ledaeniad Cristnogaeth yn y byd Celtaidd ledled Cymru, Iwerddon, Cernyw a Llydaw yn y chweched ganrif.
‘Tynnu sylw at fenywod hanesyddol Cymru’
“Cefais fy ngeni yn Sir Benfro ac rwyf wedi treulio llawer o amser yn y dirwedd hon, felly rhywbeth arbennig iawn yw dod â’r elfen hon i’r gwaith a chael y ddelwedd o Santes Non ar yr arfordir,” meddai Meinir Mathias.
“Mae hefyd yn wych tynnu sylw at fenywod hanesyddol Cymru ac, yn benodol, at fam nawddsant Cymru.”
Mae’r panel yn rhan o waith i wella mynediad at y safle hanesyddol ac ysbrydol yn Nhyddewi, sy’n cynnwys gwella’r llwybr troed i ganiatáu mynediad i bobol ag anableddau yn nes at y ffynnon a’r capel.
Ynghyd â hynny, mae taith gerdded sain wedi cael ei chynhyrchu gan yr awdur a’r darlledwr Horatio Clare sy’n rhoi cyfle i bobol brofi straeon a chyfrinachau Santes Mair.
Mae’r prosiect wedi cael ei gefnogi gan Gysylltiadau Hynafol, sef prosiect treftadaeth, twristiaeth a chelfyddydol cyffrous sy’n cysylltu Gogledd Sir Benfro a Gogledd Wexford, ac sy’n cael ei gyllido gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru, dan arweiniad Cyngor Sir Penfro, ynghyd â’i bartneriaid sef Cyngor Sir Wexford, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Visit Wexford.