Mae Kayleigh Llewellyn, awdur In My Skin, yn dweud bod y gyfres lled-hunangofiannol wedi arwain at “sgyrsiau anodd” gyda’i theulu cyn iddi gael ei darlledu.

Mae’r ddrama yn adrodd hanes Bethan (Gabrielle Creevy), merch 16 oed sy’n dygymod â salwch meddwl ei mam – sydd â chyflwr deubegynnol ac sy’n cael ei derbyn i ysbyty iechyd meddwl – yn ogystal â byw â’i rhywioldeb ei hun a’i breuddwyd o ddod yn awdur, a hithau mewn ysgol lle mae hi’n dioddef homoffobia.

Cafodd y gyfres gyntaf ei darlledu yn 2018 ar ôl i BBC Cymru ei phrynu fel ffilm fer ond fe ddaeth yn bennod beilot ac yn gyfres lawn maes o law.

Ymhlith y cast hefyd mae James Wilbraham, Poppy Lee Friar, Jo Hartley, Aled ap Steffan, Di Botcher, Georgia Furlong a Rhodri Meilir.

Cafodd ail gyfres ei chomisiynu y llynedd, a daeth cadarnhad mai hon fyddai’r gyfres olaf.

Yng ngwobrau BAFTA Cymru yn Neuadd Dewi Sant nos Sul (Hydref 9), cipiodd y gyfres y wobr ar gyfer y Ddrama Deledu Orau, gyda gwobrau hefyd i Kayleigh Llewellyn (Awdur Gorau) a Molly Manners (Cyfarwyddwr Gorau: Ffuglen).

Ar ôl talu teyrnged i’w mam ar y noson, datgelodd Kayleigh Llewellyn mai hi, i raddau helaeth iawn, yw Bethan, a hithau wedi’i magu gan ei mam sydd yn byw â’r math mwyaf difrifol o’r cyflwr deubegynnol.

Roedd hon, meddai wrth golwg360, yn stori roedd hi’n “ysu i’w hadrodd”.

“Roedd ei hysgrifennu hi, ar lawr ystyr, yn teimlo… dw i ddim eisiau dweud ei fod e’n teimlo’n hawdd, achos dydy’r gwaith byth yn hawdd… ond roedd hi’n teimlo fel stori roeddwn i’n ysu i’w hadrodd ac yn stori roedd angen ei hadrodd,” meddai.

“Daw cymhlethdodau wrth ymdrin â pherthnasau oherwydd, oni bai eich bod chi’n ynys ar eich pen eich hun, os ydych chi’n ysgrifennu stori am eich bywyd eich hun, rydych chi hefyd yn ysgrifennu am y bobol rydych chi’n eu caru a’u bywydau nhw hefyd.

“Roedd hynny’n beth anodd, gwneud yn siŵr bod fy nheulu’n iawn gydag e ac yn teimlo ’mod i’n gwneud cyfiawnder â’r stori ac yn ei hadrodd hi’n onest.

“Diolch i Dduw, fe wnaethon nhw, ond roedd yn rywbeth roedd yn rhaid ei drafod.

“Fe wnes i roi’r sgriptiau iddyn nhw ymlaen llaw i’w darllen cyn i ni ddechrau ffilmio, jyst er mwyn rhoi carte blanche iddyn nhw, a dweud, ‘Os oes unrhyw beth rydych chi’n credu sy’n rhy bersonol neu unrhyw beth rydych chi’n ei gofio’n wahanol, dywedwch wrtha i ac fe wna i ei newid’.

“Ond diolch i Dduw, wnaethon nhw ddim. Yn y pen draw, maen nhw’n teimlo’n browd iawn, ond wrth gwrs mae’n arwain at sgyrsiau anodd hefyd.”

Gabrielle Creevy yn “rhagorol”

Yn y cyfamser, mae hi’n dweud bod Gabrielle Creevy yn actores “ragorol”.

“Byddwn i’n betio’r holl arian yn fy nghyfrif banc mai hi fydd y peth mwyaf i ddod allan o Gymru,” meddai Kayleigh Llewellyn wedyn.

“Mae hi’n dalent enfawr ond tu hwnt i hynny, mae hi’n berson hyfryd, yn eithriadol o ofalgar, diymhongar, ystyriol o’r holl bobol eraill yn y tîm, tu ôl i’r camera ac o flaen y camera.

“Allwn i ddim bod wedi gofyn am fwy.

“Mae hi’n hyfryd.”