Mae Chris Roberts, y cogydd o Gaernarfon, yn dweud y dylai pobol ddathlu bwyd Cymru yn ogystal â’i fwyta.

Daw ei sylwadau wrth siarad â golwg360 ar ôl iddo ennill dwy wobr BAFTA Cymru mewn seremoni arbennig yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd nos Sul (Hydref 9).

Fe ddaeth i’r brig yn y categori Cyflwynydd Gorau ar gyfer Bwyd Byd Epic Chris, y rhaglen goginio gipiodd y wobr Rhaglen Adloniant Orau hefyd.

Mae’r rhaglen yn adnabyddus am ddathlu bwyd ond hefyd Caernarfon, tref gartre’r cogydd, ond mae’n dweud bod ffilmio’r gyfres yn Efrog Newydd wedi rhoi’r cyfle iddo fynd â bwyd Cymru i’r byd.

“Dw i’n coelio dylsai pobol Cymru ddim jyst bwyta bwyd Cymru, ond dathlu fo,” meddai.

“Mae o’n bwysig, hynna ydi passion fi, hynna ydi be’ dw i’n lyfio gwneud, a dydi o ddim yn teimlo fatha gwaith yn gwneud o.

“Mae’r rhaglen yn rhoi sylw i Gaernarfon, a dw i wrth fy modd yn cwcio yng Nghaernarfon, ond mae’r gyfres newydd maen nhw’n gwneud yn Efrog Newydd – Brooklyn, Manhattan, Queens.

“Dw i wedi cwcio ym mhob man sydd yna i gwcio yng Nghaernarfon, mae o’n change fach o’r dre’.

“Bwyd Cymru – y bwyd gorau yn y byd! Dim jyst bwyta fo, ond dathlu fo. Hynna ydi be’ mae o amdan.”

Mynd â bwyd Cymru dros yr Iwerydd

Sut brofiad, felly, oedd cael mynd â Chymru a’i bwyd i ran arall o’r byd lle mae yna gymdeithas Gymraeg?

“Roedd o’n anhygoel,” meddai Chris Roberts wedyn.

“Ro’n i’n gwneud pop-ups a takeovers yn restaurants rhai o food heroes fi, ac yn defnyddio cig oen, bara lawr, tân mwg efo calon Gymreig, ac roeddan nhw’n lyfio fo.

“Wnaeth Matthew Rhys fflio drosodd i fi gwcio iddo fo yn Brooklyn – sbesial iawn!

“Wnes i wneud takeover yn Roberta’s yn Bushwick, sy’n ysbrydoliaeth i fi pan ddaw i fwyd a chwcio efo tân, a gwin naturiol hefyd.

“Roedd cwcio yn fan’na yn sbesial iawn.”