Mae arddangosfa newydd yn archwilio traddodiad cerddorol Cymru ar hyd y canrifoedd drwy ddefnyddio amrywiol eitemau o’r Archif Gerddorol Gymreig a’r Archif Sgrin a Sain sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Cafodd ‘Record: Gwerin, Protest a Phop’ ei hagor yn Oriel Glan-yr-afon yn Hwlffordd ar ddydd Sadwrn, Medi 17.

Bydd ‘Record’ yn archwilio pam fod Cymru’n cael ei disgrifio’n aml fel gwlad y gân, ym mhle dechreuodd ein traddodiad cerddorol, a sut y datblygodd.

Mae’r arddangosfa hefyd am edrych ar draddodiadau cerddorol cynnar a gwerinol Cymru drwy lawysgrifau megis Melus-seiniau Cymru, sef un o’r casgliadau pwysicaf o alawon gwerin Gymreig a gasglwyd gan Ifor Ceri.

Bydd yr arddangosfa ar agor tan ddydd Sadwrn, Chwefror 18 y flwyddyn nesaf.

O Richard Burton i’r Super Furry Animals

Mae dylanwad unigolion fel Meredydd Evans a’i briod Phyllis Kinney yn cael ei gydnabod ym maes cerddoriaeth werinol ac adloniant ysgafn, a hynny drwy eitemau newydd o’u harchif.

Ymhlith uchafbwyntiau eu casgliad mae llythyr arbennig oddi wrth Richard Burton at Merêd sy’n trafod alawon gwerin Cymraeg.

Bydd ‘Record’ hefyd yn edrych ar sut mae labeli annibynnol a grwpiau Cymreig wedi gweithio i gynhyrchu cerddoriaeth brotest a phop chwyldroadol yn ystod y degawdau diwethaf.

Daw’r stori’n fyw yn yr archifau amrywiol, gan gynnwys papurau Y Blew a’r Super Furry Animals.

Mae cylchgronau pop cynnar fel Sŵn, casgliad helaeth o bosteri gigs o’r 1960au hyd at yr 1990au, a phortread celf pop Malcolm Gwyon o Dafydd Iwan hefyd i’w gweld yn yr arddangosfa.

Ysgogi atgofion

“Mae hi wedi bod yn lot o hwyl curadu’r arddangosfa hon, ac yn gyfle gwych i roi llwyfan i gasgliadau’r Archif Gerddorol a’r Archif Sgrin a Sain, sydd mor amrywiol a diddorol,” meddai Mari Elin, Curadur Arddangosfa ‘Record: Gwerin, Protest a Phop’.

“Gobeithio bydd ‘Record’ yn ysgogi ymwelwyr i fynd ati i archwilio’r casgliadau cerddorol Llyfrgell Genedlaethol Cymru ymhellach, yn ogystal â galw heibio’u siop recordiau lleol i ’nôl record Gymreig neu ddwy!”

Dywed Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, fod Record: Gwerin, Protest a Phop “yn ddathliad lliwgar ac amrywiol o’r traddodiad cerddorol yng Nghymru”.

“Braf yw gallu ei rhannu â chynulleidfaoedd newydd y tu hwnt i Aberystwyth trwy fynd â hi ar daith i Oriel Glan-yr-Afon, Hwlffordd ac arddangos cyfoeth ein casgliadau sy’n cynrychioli datblygiad y traddodiad ar draws y canrifoedd gan gyfuno casgliadau’r Archif Gerddorol, yr Archif Sgrin a Sain ac eitemau o’n casgliadau gweledol,” meddai.

“Mae rhywbeth i bawb yn yr arddangosfa hon, o’r gorffennol i’r presennol, ac mae’n siŵr o ysgogi atgofion yn yr un modd ymhlith ei ymwelwyr.”

Galw am ddeunydd

“Mae’r arddangosfa yn rhoi blas o’r casgliadau cerddorol gwerin a phop sydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac yn gyfle i ddathlu’r casgliadau a dderbyniwyd yn ddiweddar gan gynnwys archif Merêd a Phyllis Kinney a llyfr lloffion y Super Furry Animals,” meddai Nia Mai Daniel, Pennaeth Isadran Archifau, Llawysgrifau a Chofnodion Modern, a Chydlynydd yr Archif Gerddorol Gymreig.

“Os oes rhywun â mwy o ddeunydd fel posteri, ffotograffau, neu lythyrau cysylltwch â ni.

“Rydym yn dal i gasglu er mwyn medru dogfennu ac adlewyrchu hanes cerddoriaeth Cymru o’r gwreiddiau hyd at heddiw.”