Mae Kiri Pritchard-McLean, y ddigrifwraig o Fôn, yn dweud nad yw hi “erioed wedi teimlo’r fath ofn” â’r hyn deimlodd hi wrth berfformio’i gig stand-yp cyntaf yn y Gymraeg yng Ngŵyl Gomedi Aberystwyth yn ddiweddar.

Yn ogystal â pherfformio’i sioe Saesneg ‘Home Truths’, cymerodd hi ran yn y sioe ‘Cawl Potsh gyda Dan Thomas’, ochr yn ochr â llu o ddigrifwyr Cymraeg eraill yn Theatr y Castell ar nos Sadwrn yr ŵyl.

Roedd ganddi dair munud o ddeunydd yn Gymraeg, meddai, a hynny er iddi gael slot o bump i saith munud.

“Yn y pen draw, bu bron i mi wneud wyth munud oherwydd, os rhywbeth, dw i’n gyson mewn unrhyw iaith wrth redeg drosodd!” meddai wrth golwg360 o’r carped coch yng ngwobrau BAFTA Cymru.

“Ond dw i erioed wedi teimlo’r fath ofn.

“Mae’n siŵr ’mod i’n fwy nerfus nag oeddwn i’n gwneud fy gig cyntaf yn Saesneg, oherwydd mae’n teimlo fel bod llawer yn y fantol i fi fel dysgwraig.

“Ond dw i wedi cyffroi cymaint gan yr hyn allai fod – dw i ddim yn cystadlu am goron Tudur [Owen] neu Elis [James] ar hyn o bryd, ond roedd o’n gam cychwynnol da i mi, yn sicr.”

Ydy comedi’n cyfieithu?

A hithau’n enw ac yn wyneb cyfarwydd ar y sîn gomedi Saesneg ledled y Deyrnas Unedig, mae hi bellach wedi ymuno â chriw o ddigrifwyr sydd wedi perfformio yn nwy brif iaith Cymru.

Ond sut mae mynd ati i drosi jôcs sy’n adnabyddus ac yn llwyddo yn Saesneg, i’r Gymraeg?

“Dw i’n meddwl fod o’n ddiddorol oherwydd, i gychwyn, mae strwythur yr iaith Gymraeg yn wahanol, felly fedrwch chi ddim jyst symud eich jôcs drosodd o reidrwydd, a bydd rhaid i chi sgwennu deunydd newydd.

“A dyna wnes i, oherwydd do’n i ddim yn meddwl bod unrhyw beth yn ffitio.

“Roeddwn i isio sgwennu am fy mhrofiadau fel dysgwraig, a dw i ddim yn trafod hynny lawer iawn yn Saesneg, felly mi oedd hi’n her oherwydd dw i’n mynd ymlaen ac yn ei wneud o mewn iaith dw i erioed wedi’i wneud o ynddi o’r blaen, efo jôcs dw i erioed wedi’u gwneud o’r blaen – am wn i, nid dyna’r ffordd orau o’i wneud o!

“Ond o leia’ dw i wedi’i wneud o rŵan, a dw i wedi rhwygo’r plastar i ffwrdd.”

Sut dderbyniad gafodd hi, felly?

“Dw i’n meddwl bod y gynulleidfa’n agored iawn ac yn gefnogol,” meddai.

“Mae yna awch go iawn am stand-yp a chomedi yn Gymraeg, pob math o gyfryngau newydd hefyd, ond hefyd i gefnogi dysgwyr yn eu taith yn y diwydiannau creadigol hynny.

“Dw i ddim yn meddwl eich bod chi’n cael hynny mewn llawer o ieithoedd.

“Mae pobol Gymraeg iaith gyntaf yn gefnogol iawn o bobol ar eu taith i ddysgu’r Gymraeg, sy’n beth hyfryd iawn.”