Ar ôl cael ei henwebu ar gyfer gwobr BAFTA Cymru, mae Elin Fflur yn dweud bod Sgwrs Dan y Lloer “wedi bod yn rhodd o gyfres” iddi.
Bu’n siarad â golwg360 cyn y seremoni yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd, lle cafodd ei henwebu ar gyfer y wobr Cyflwynydd ochr yn ochr â’r enillydd Chris Roberts (Bwyd Byd Epic Chris), Jason Mohammad (DRYCH: Trelai, y Terfysg a Jason Mohammad) a Sean Fletcher (Wonders of the Border).
A hithau ar ei phedwaredd gyfres erbyn hyn, mae’r gantores a chyflwynwraig yn sgwrsio ag enwogion amrywiol yn yr awyr agored ym mhob pennod, gan glywed hanes eu bywydau a’u gyrfaoedd.
“Roedd locdown wedi bod yn dipyn o her i bawb, on’d do?” meddai wrth golwg360.
“Ond gafon ni’r gyfres yma yn ystod y cyfnod clo sydd wedi parhau ers hynny.
“Rydan ni ar y bedwaredd gyfres erbyn hyn, felly mor, mor lwcus.
“Mae wedi bod yn rhodd o gyfres i fi, wedyn mae jyst cael enwebiad yn gwneud i fi deimlo fatha bo fi wedi ennill, os dw i’n onest.”
Llwyddiant y gyfres
Ond pam fod y gyfres mor boblogaidd a llwyddiannus, felly?
“Am ryw reswm, mae’r gyfres wedi cydio yn nychymyg pobol Cymru ac mae pobol yn ei mwynhau hi,” meddai Elin Fflur wedyn.
“Ar ddiwedd y dydd, dw i’n meddwl bod pobol jyst yn licio gwrando ar straeon bywyd ei gilydd.
“Dyna sy’n ddifyr, ein straeon ni a rhannu profiadau, felly dw i’n meddwl mai dyna pam mae hi wedi llwyddo.
“Mae hi jyst yn neis cael pawb at ei gilydd i gael dathlu’r elfen greadigol o Gymru.
“Dw i wrth fy modd, mae rhaid i mi ddweud.”