Dafydd Iwan fydd gwestai arbennig nesaf Elin Fflur mewn pennod awr o hyd o Sgwrs Dan y Lloer nos Lun (Hydref 17).
Bydd Elin Fflur yn cael clywed am fywyd a gyrfa un o ffigurau mwyaf nodedig hanes diweddar Cymru o flaen tanllwyth o dân yn ei gartref ym mhentref Caeathro ger Caernarfon.
Mae’r gân ‘Yma o Hyd’ wedi cael bywyd newydd dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae ganddi le arbennig yng nghalonnau cefnogwyr pêl-droed Cymru ac aelodau’r tîm bellach.
Roedd Dafydd Iwan yno yn gêm Cymru yn erbyn Awstria yn canu’r gân fis Mawrth, ac eto wedyn pan enillodd Cymru eu lle yng Nghwpan y Byd yn erbyn Wcráin o flaen 30,000 o bobol.
Mae’r cyfnod yn un sydd bron â bod yn afreal erbyn hyn, yn ôl y canwr wrth gofio’n ôl.
“Pan ddaeth y Wal Goch i fewn ar y gytgan gyntaf yna, roedd hi fel cael fy nharo gan bŵer arallfydol – roedd o’n brofiad rhyfeddol. Ac yn brofiad ysgytwol iawn,” meddai.
Un o’r pethau mwyaf teimladwy am y perfformiad yw’r dagrau yn ei lygaid.
Dyw hyn ddim yn ddiarth i Dafydd wrth ganu, ond mae’n cyfaddef nad oedd modd gwneud dim byd arall yn y sefyllfa honno.
“Roeddwn i’n canu cân dwi wedi’i chanu ers bron i ddeugain mlynedd a dyma’r miloedd o gefnogwyr pêl-droed – Cymry Cymraeg a di-Gymraeg – yn ei chanu hi nol i mi,” meddai wedyn.
‘Cadw’r fflam ynghyn’
Yn ogystal â bod yn ganwr, mae Dafydd Iwan yn gyfansoddwr, ymgyrchydd, pregethwr, gwleidydd a dyn busnes.
Un o fechgyn Brynaman yw e’n wreiddiol, er ei fod wedi byw yn y gogledd ers blynyddoedd maith.
Roedd ei dad yn weinidog a’i fam yn athrawes, y ddau yn genedlaetholwyr, a’i dad yn un o sylfaenwyr Plaid Cymru.
I Dafydd Iwan, roedd bod yn genedlaetholwr yn rhywbeth naturiol yn ei fagwraeth, ac roedd “yn beth naturiol i gefnogi eich gwlad eich hun a bod chi angen gweld eich gwlad eich hun yn cael yr un hawliau ac unrhyw wlad arall”, meddai.
Dros y blynyddoedd, mae wedi ymgyrchu’n frwd dros yr iaith, gan gynnwys treulio cyfnodau yn y carchar, ac wedi sefyll sawl tro dros Blaid Cymru ac fel aelod o Gyngor Gwynedd.
Fo hefyd oedd un o sylfaenwyr Stiwdio Sain ym 1969.
Mae crefydd a ffydd yn rywbeth arall sy’n rhan fawr o’i fywyd, ac mae’n pregethu’n rheolaidd.
Wrth drafod y capeli, dywed eu bod nhw’n sefydliadau pwysig beth bynnag fo’u niferoedd, ac mae’r ddisgyblaeth er mwyn mynd i’r capel yn ei angori, meddai.
“Maen nhw’n cadw’r fflam ynghyn mewn ffordd real iawn ac ar wahân i hynny, mae’n helpu fi achos mae’n cadw fy nhraed i ar y ddaear, hyd yn oed os ydi fy mhen i yn y cymylau!”
- Bydd Sgwrs Dan y Lloer gyda Dafydd Iwan ar S4C nos Lun, Hydref 17 am 8yh, gyda chyfle i fwynhau deuawd arbennig ar ddiwedd y rhaglen.