Bydd Gwobr Iris yn dychwelyd i Gaerdydd heno (nos Fawrth, Hydref 11) ar gyfer chwe niwrnod o ddathlu ffilmiau LHDTC+.

Heno, bydd chwe ffilm fer newydd o Gymru’n cael eu dangos am y tro cyntaf, cyn i enillwyr y gwobrau gael eu cyhoeddi dros y dyddiau nesaf.

Dyma’r 16eg tro i’r ŵyl gael ei chynnal, a bydd 51 o ffilmiau byrion yn cystadlu am wobrau eleni.

Dros y chwe niwrnod, bydd y gynulleidfa yn cael cyfle i weld 36 o ffilmiau byrion sy’n cystadlu am am Wobr Ryngwladol Iris, 15 ffilm fer sy’n cystadlu am y Ffilm Fer Brydeinig Orau, a 12 ffilm fydd yn cystadlu am deitl y Ffilm Nodwedd Orau.

Bydd yr ŵyl, sy’n ddathliad o amrywiaeth ac amlygrwydd y gymuned LHDTC+, yn dechrau am 7 heno yn Premiere Cinemas yng Nghaerdydd, gyda dangosiadau o’r chwe ffilm fer ganlynol:

  • Cardiff, wedi’i chyfarwyddo gan Sarah Smith, a enillodd Wobr Iris 2019
  • Blooming gan Efa Blosse Mason a Sophie Marsh
  • I Shall be Whiter than Snow gan Frederick Stacey
  • Queens Cwm Rag gan Lindsay Walker
  • Sally Leapt Out Of A Window Last Night gan Tracy Spottiswoode
  • G♭ gan Peter Darney a Richard Wilson

‘Gweiddi’n uchel ac yn falch’

Dyma’r tro cyntaf i’r ŵyl gael ei chynnal wyneb yn wyneb ers 2019, a dywed Berwyn Rowlands, cyfarwyddwr yr ŵyl, eu bod nhw wrth eu boddau’n croesawu gwneuthurwyr ffilmiau a gwesteion o dros y byd i Gaerdydd.

“Bydd Angharad Mair yn cyflwyno’r Noson Agoriadol, gan ddathlu’r gorau o fyd ffilmiau Cymru – chwe ffilm newydd, pedair ohonyn nhw gan fenywod,” meddai.

“Dyma’r amser yn ystod yr ŵyl pan mae Cymru’n gweddi’n uchel ac yn falch – edrychwch ar yr hyn ydym ni, a dyma ein straeon.”

Dywed Tom Abell, Cadeirydd Gwobr Iris, ei bod hi’n “hyfryd” gallu croesawu pobol sy’n caru ffilmiau yn ôl i’r sinema eleni.

“Ynghyd â’r ffilmiau sydd gennym ni i’w cynnig, bydd cyfle i fwynhau saith sgwrs am y diwydiant o wneud ffilmiau dogfen i wneud ffilm nodwedd, a rôl cynghreiriaid heterorywiol wrth greu ffilmiau LHDTC+,” meddai.