Mae’r actores Morfydd Clark wedi dweud wrth golwg360 ei bod hi’n teimlo “mor lwcus” o gael gweithio yn Seland Newydd ar y gyfres deledu Rings of Power.
Roedd y Gymraes o Benarth yn ôl adref yn y brifddinas nos Sul (Hydref 9) er mwyn cyflwyno’r wobr ar gyfer yr Actores Orau yng ngwobrau BAFTA Cymru yn Neuadd Dewi Sant.
Emilia Jones ddaeth i’r brig ar gyfer ei rhan yn Coda, gan guro Aimee Lou Wood (Mincemeat), Gabrielle Creevy (In My Skin) a Joanna Scanlan (After Love).
Mae Morfydd Clark yn gyn-enillydd y wobr hon, ac yn un o’r enwebeion ar gyfer yr un wobr yng Ngwobrau Ffilmiau Annibynnol Prydain, am ei rhan yn y ffilm Saint Maud yn 2019, ac mae ei gyrfa wedi mynd o nerth i nerth ers hynny.
Cafodd ei henwebu wedyn am y wobr BAFTA Rising Star Award.
Daeth ei hawr fawr wrth iddi gael rhan yn y gyfres Rings of Power yn chwarae’r cymeriad Galadriel, ac mae hi wedi dweud wrth golwg360 fod y tebygrwydd rhwng Cymru a Seland Newydd, lle cafodd y gyfres gyntaf ei ffilmio, wedi ei helpu i deimlo’n gartrefol.
“Fi newydd ddechrau ffilmio Rings of Power Season 2, felly mae hwnna’n rili exciting,” meddai.
“Ro’n ni wedi ffilmio’r Season gyntaf yn Seland Newydd, a nawr ni’n ffilmio ym Mhrydain.
“Fi wedi cwrdd â lot o’r criw newydd, a lot o bobol Gymraeg hefyd.
“Mae yna similarities rhwng Cymru a Seland Newydd, felly fi’n meddwl oedd e’n teimlo fel bod gartref yno.
“Fi jyst yn teimlo mor lwcus o’n i wedi cael y profiad o gael gweithio fynna, a fi’n mynd i gymryd hwnna trwy holl fywyd fi.”
BAFTA Cymru wyneb yn wyneb
Ar ôl cynnal gwobrau BAFTA Cymru yn rhithiol dros gyfnod Covid-19, y gwobrau eleni oedd y rhai cyntaf i’w cynnal wyneb yn wyneb ers dechrau’r pandemig.
Ac roedd Morfydd Clark yn falch o fod yno, er ei bod hi’n cydnabod ei bod hi’n un o’r rhai ffodus.
“Fi’n meddwl bod gallu gwneud hwn mewn ffordd saff yn bwysig,” meddai.
“Mae’n hyfryd i fod o gwmpas pobol, ond fi dal yn teimlo dros bobol sydd dal yn methu bod yn rhan o bethau fel hyn, oherwydd so pawb yn saff eto.”