Bydd modd i fyfyrwyr astudio holl arddulliau’r theatr gerddorol drwy’r Gymraeg am y tro cyntaf, diolch i gwrs newydd gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

O’r flwyddyn academaidd nesaf, bydd y brifysgol yn cynnig cwrs BA Theatr Gerddorol drwy’r Gymraeg.

Bydd y radd newydd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer y diwydiant mewn amgylchedd dysgu ymarferol, gan roi cyfle iddyn nhw ddatblygu eu sgiliau actio, canu a dawnsio drwy hyfforddiant proffesiynol.

Mae’r cwrs wedi’i leoli yng nghartref newydd Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru Prifysgol y Drindod Dewi Sant yng nghanol dinas Caerdydd, lle mae yna gasgliad o stiwdios pwrpasol ar gyfer ymarfer a pherfformio.

‘Pennod newydd’

Dywed Eilir Owen Griffiths, cyfarwyddwr y cwrs, fod hon yn bennod newydd i Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru.

“Rydym wrth ein bodd yn cyflwyno cwrs newydd sbon – yr unig un o’i fath yng Nghymru drwy gyfrwng y Gymraeg sy’n canolbwyntio’n llwyr ar Theatr Gerddorol,” meddai.

“Dros y pum mlynedd ddiwethaf mae’r ddarpariaeth wedi datblygu’n sylweddol yng Nghaerdydd, ac mae’r radd newydd hon yn allweddol bwysig i’r portffolio.

“Trwy weithio gyda gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant, bydd y BA Theatr Gerddorol yn cynnig i berfformwyr ifanc gwrs astudio rhagorol ag iddo ffocws penodol sy’n berthnasol i’r diwydiant.

“Mae darlithwyr y cwrs wedi ymrwymo i ddatblygu artistiaid creadigol, sy’n meddwl yn annibynnol; artistiaid perthnasol i’r diwydiant.”

‘O nerth i nerth’

Mae sawl un o raddedigion Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru wedi mynd yn eu blaenau i fod yn rhan o gast sioeau’r West End, gan gynnwys Joey Cornish yn Jersey Boys, Glain Rhys yn The Secret Garden, Celyn Cartwright yn Riverdance, a Siôn Emlyn Williams yn The Corn is Green gyda’r National Theatre.

“Ers sefydlu’r cwrs BA Perfformio yn 2015 mae’r ddarpariaeth wedi mynd o nerth i nerth,” meddai Eilir Owen Griffiths wedyn.

“Braf ydi gweld bod cynifer o’n cyn-fyfyrwyr yn sicrhau swyddi ar hyd a lled Cymru, yn ogystal â throedio llwyfannau’r West End.

“Mae gallu cynnig gradd sydd yn canolbwyntio ar bwnc mor boblogaidd, a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg yn medru agor llawer mwy o ddrysau a chyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu eu crefft.”