Mae angen i Lywodraeth Cymru i fod yn fwy parod i weithredu “pan maen nhw’n cael rhesymau dilys dros wneud pethau”, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.
Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi eu bod yn edrych ar ffyrdd o atal pobol rhag newid enwau lleoedd Cymraeg.
Fel rhan o Gynllun Tai a Chymunedau Cymraeg gafodd ei lansio gan y gweinidog Jeremy Miles ddoe (dydd Mawrth, Hydref 11), fe fyddan nhw’n cynnal gwaith ymchwil i’r hyn sy’n bosib ei wneud i atal newid enwau lleoedd Cymraeg.
Pleidleisiodd Senedd Cymru yn erbyn mesur Plaid Cymru i amddiffyn enwau lleoedd hanesyddol yn 2017, rhywbeth mae Robat Idris, cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith, yn gofidio sydd wedi arwain at golli nifer fawr o enwau lleoedd Cymraeg.
Fodd bynnag, cafodd y mater ei drafod eto’r llynedd wedi i ddeiseb yn galw am y newid gael ei llofnodi gan dros 18,000 o bobol.
Roedd y cynllun gafodd ei gyhoeddi ddoe gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys nifer o fesurau i fynd i’r afael â heriau sy’n wynebu cymunedau Cymraeg eu hiaith sydd â nifer uchel o ail gartrefi ynddyn nhw.
“Mae canllawiau statudol yn gofyn i awdurdodau lleol ystyried y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol wrth ddelio gyda cheisiadau ffurfiol i ailenwi eiddo gydag enwau hanesyddol,” meddai’r cynllun.
“Fodd bynnag, mae’n bosib i berchnogion tai newid enwau Cymraeg mewn ffyrdd mwy anffurfiol ac mae hyn yn cael effaith ar bresenoldeb gweladwy’r iaith yn ein cymunedau.
“Does dim sylfaen dystiolaeth yn bodoli ar raddfa’r broblem yma ar hyn o bryd.
“Byddwn felly yn comisiynu ymchwil benodol er mwyn edrych ar y nifer o enwau sy’n newid a sut a ble y maent yn newid.
“Bydd yr ymchwil hon yn llywio camau pellach yn y maes hwn.”
‘Rhwydwaith o lysgenhadon diwylliannol’
Wrth gyhoeddi pecyn o fesurau gwerth £500,000 yn y Senedd, dywedodd Jeremy Miles y byddai Llywodraeth Cymru’n “creu rhwydwaith o lysgenhadon diwylliannol”.
“Pobol leol fydd y rhain, sy’n adnabod eu cymunedau’n dda,” meddai.
“Byddan nhw’n esbonio materion diwylliannol a’r sefyllfa iaith er mwyn helpu i integreiddio pobol sy’n symud i’w cymunedau.
“Mae pobol yn fwy parod i fod yn rhan o gymuned pan mae ganddyn nhw ddealltwriaeth o le maen nhw’n byw.”
‘Pwyso ers talwm’
Er bod Robat Idris, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru’n gweithredu, mae’n cwestiynu pam gafodd mesur Plaid Cymru ei wrthod yn 2017.
“Yn sicr, mae o’n ofid bod cymaint o enwau lleoedd wedi cael eu colli dros y bum mlynedd diwethaf,” meddai wrth golwg360.
“Dw i’n siŵr bod pobol o bob ardal o Gymru yn gallu meddwl am enghreifftiau lle mae hyn wedi digwydd, ac mae o’n resyn mewn gwirionedd bod yna bum mlynedd wedi mynd heibio.
“Rydan ni yn gofyn i Lywodraeth Cymru, pan maen nhw’n cael rhesymau dilys dros wneud pethau o’r math yma neu bethau sydd er lles pobol Cymru, eu bod nhw’n bod yn ymarferol a pharod i weithredu.
“Er enghraifft, yn y maes Tai ac Eiddo rydan ni wedi bod yn pwyso ers talwm ac rŵan mae’r Llywodraeth yn dechrau symud.
“Mae yna bob math o bwysau ar y Gymraeg ac ar bobol yn gyffredinol yng Nghymru ac rydan ni’n edrych i Lywodraeth Cymru i ddangos arweiniad yn ogystal â dilyn y pwysau sy’n cael eu rhoi arnyn nhw.”
‘Gwerth ymgyrchu’
Dywed Robat Idris fod y ffaith bod Llywodraeth Cymru nawr yn gweithredu ar y mater hwn yn dangos “gwerth ymgyrchu”.
“Dw i’n meddwl ei fod o’n sicr yn cadarnhau fod yna werth i ymgyrchu,” meddai.
“Mae yna hen ddywediad yn does, ‘Dyfal Donc a Dyr y Garreg’.
“Y drwg mewn ffordd ydi bod hi’n rheidrwydd ymgyrchu o hyd ond mi fydd hynny, am wn i, yn bodoli tra bydd y Gymraeg a Chymru o gwmpas.
“Mi fydd wastad rhaid ymgyrchu i amddiffyn rhyw agwedd ohoni.”
‘Cadw enwau Cymraeg’
Sut hoffai Robat Idris weld Llywodraeth Cymru’n mynd ati i warchod enwau lleoedd yng Nghymru felly?
“Mi fasa chi’n meddwl ei fod o’n beth gweddol rwydd llunio deddfwriaeth berthnasol,” meddai.
“Fe faswn i’n meddwl mai lle mae angen edrych arno fo ydi os oes yna gategori penodol lle allwch chi ddweud os ydi tŷ yma ers hyn a hyn o amser bod dim hawl gan neb newid ei enw fo.
“Neu ryw gategori’n ymwneud â stad o dai, math yna o beth.
“Ond yr egwyddor sylfaenol ydi cadw enwau Cymraeg os nad oes yna reswm da i’w newid o.”
Mae golwg360 wedi ceisio cysylltu â Swyddfa Jeremy Miles.