Mae Banc Lloegr yn mynnu y bydd eu cynllun prynu bondiau i helpu cronfeydd pensiwn yn dod i ben ddydd Gwener (Hydref 14), gan wfftio adroddiadau y gallai gael ei ymestyn.
Dywed y bydd yn dod i ben ddydd Gwener “fel gwnaethpwyd yn glir o’r cychwyn cyntaf”.
Ar hyn o bryd, mae’r Banc yn prynu bondiau er mwyn sefydlogi eu pris ac atal gwerthiant a allai beryglu rhai cynlluniau pensiwn.
Daw datganiad y Banc wedi i’r pennaeth Andrew Bailey ddweud wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig fod ganddyn nhw “dri diwrnod ar ôl nawr” a bod “rhaid” iddyn nhw ddatrys y sefyllfa.
Syrthiodd y bunt yn sydyn yn erbyn y ddoler wedi datganiad Andrew Bailey, gan sefydlogi ar $1.10, tra bod costau benthyca’r llywodraeth yn parhau’n agos at y lefelau gafodd eu gweld fis diwethaf, pan gamodd y Banc i’r adwy am y tro cyntaf ar ôl i’r gyllideb fach sbarduno gofid ymhlith buddsoddwyr am sefydlogrwydd ariannol y Deyrnas Unedig.
Roedd y cynlluniau ar gyfer toriadau treth enfawr, oedd heb arwydd clir o sut y byddai modd talu amdanyn nhw, wedi sbarduno adwaith yn y marchnadoedd ariannol.
Syrthiodd y bunt i’w lefel isaf erioed a gostyngodd prisiau bondiau yn sydyn gan orfodi Banc Lloegr i gamu i’r adwy a phrynu bondiau i geisio atal eu pris rhag disgyn ymhellach.
Dywed Andrew Bailey ei fod wedi aros ar ei draed drwy’r nos i geisio dod o hyd i ffordd o dawelu marchnadoedd, gan ychwanegu bod y Banc yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw sefydlogrwydd ariannol.
Fodd bynnag, pwysleisiodd eu bod wastad wedi bod yn glir mai rhywbeth dros dro fyddai’r cymorth, a bod yn rhaid i’r Llywodraeth weithredu er mwyn sefydlogi’r marchnadoedd a sicrhau cronfeydd pensiynau pobol.
Beio eraill
Fodd bynnag, wrth siarad ar raglen Today y BBC, awgrymodd yr Ysgrifennydd Busnes Jacob Rees-Mogg mai newid mewn cyfraddau llog, yn hytrach nag addewidion torri treth gan y Llywodraeth, oedd wedi achosi’r ansicrwydd economaidd, gan ddadlau bod Banc Lloegr wedi methu â chodi cyfraddau llog mor gyflym ag yn yr Unol Daleithiau.
“Nid yw’r gyllideb fach o reidrwydd sydd wedi achosi’r effaith ar gronfeydd pensiwn,” meddai.
“Gallai’r ffaith na chafodd cyfraddau llog eu codi mor gyflym ag yr Unol Daleithiau’r un mor hawdd fod wedi achosi’r effaith hwn ar gronfeydd pensiynau.”
Wfftio’r awgrym hwn wnaeth Rachel Reeves, Canghellor cysgodol y Blaid Lafur, gan ddweud: “Dyma argyfwng Torïaidd sydd wedi ei greu yn Stryd Downing, ac mae hynny nawr yn cael ei dalu amdano gan bobol sy’n gweithio.”