Mae Plaid Cymru wedi galw eto ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’i phwerau i atal mwy o bobol rhag dod yn ddigartref dros y gaeaf yn sgil rhenti cynyddol.
Rhwng mis Mehefin y llynedd a Mehefin eleni, cynyddodd rhent cyfartalog Cymru gan 15.1% i £926 y mis.
Dylid rhewi rhent a gwahardd landlordiaid rhag troi tenantiaid allan, yn ôl Mabon ap Gwynfor, llefarydd tai Plaid Cymru.
Wrth siarad cyn dadl gan ei blaid ar y pwnc yn y Senedd, dywedodd yr Aelod o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd fod Llywodraeth yr Alban wedi rhewi rhenti ar ôl i’r Blaid Lafur ymgyrchu dros y mater yno.
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud i rewi rhenti a gwahardd troi allan yn yr Alban ar Fedi 7, ac mae disgwyl i’r mesurau aros yn eu lle tan ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf.
Dangosodd adroddiad a gafodd ei gyhoeddi gan Sefydliad Bevan dros yr haf fod 11% o bobol Cymru’n ofni colli eu cartrefi, sy’n gynnydd o 7% ers mis Tachwedd y llynedd.
Mwy o ofnau ymysg pobol sy’n rhentu tai sy’n gyfrifol am y cynnydd, gyda 25% o denantiaid yn dweud eu bod nhw’n poeni am golli eu cartrefi.
‘Gwneud dim ddim yn opsiwn’
Dywed Mabon ap Gwynfor fod yr argyfwng tai a’r argyfwng costau byw yn gwbl gysylltiedig.
“Mae gwreiddiau costau byw yn perthyn i gostau tai, ac yn sgil hynny mae costau tai cynyddol yn gwaethygu’r argyfwng costau byw,” meddai.
“Rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru weithredu ar frys i atal pobol rhag dod yn ddigartref dros y gaeaf drwy rewi rhenti a gwahardd troi allan yn y sector rhentu preifat.
“Mae angen gweithredu brys mewn argyfwng fel hwn – fel y gwnaeth y llywodraeth yn ystod y pandemig. Pam ddim nawr?
“Mae Llafur yn sydyn iawn yn beio’r Torïaid yn San Steffan, ond y gwir yw bod ganddyn nhw’r pŵer i weithredu.
“Bydd methu â gwneud hynny’n cynrychioli methiant yn nyletswydd Llafur yng Nghymru i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed a gwneud y gorau o fuddion datganoli.
“Rydym ni’n clywed bod yna bryderon am effaith posib gan oblygiadau difwriad cymryd camau o’r fath.
“Y gwir yw bod yna oblygiadau difrifol wrth beidio gwneud dim, a byddan ni’n gweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobol sy’n ddigartref os na fydd rhywbeth yn cael eu gwneud i’w hamddiffyn nhw.
“Wrth wynebu’r fath argyfwng, dydy gwneud dim ddim yn opsiwn.”