Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud eu bod nhw’n siomedig fod cynifer o’r mesurau yn y Cynllun Tai a Chymunedau Cymraeg yn dibynnu o hyd ar weithredoedd gwirfoddol.

Maen nhw’n dadlau nad yw’r cyllid “yn mynd yn bell o gwbl”, ac mai Deddf Eiddo gyflawn sydd ei hangen.

“Mae tipyn o gynnwys y cynllun yn bethau sydd wedi eu cyhoeddi yn barod onjd tu hwnt i hynny mae sôn eto am ragor o gamau gwirfoddol yn ardal peilot Dwyfor,” meddai Robat Idris, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

“Ond dydyn ni ddim yn gweld mesurau presennol yn ardal peilot yn cael hymestyn y tu hwnt i’r ardal.

“Mae angen i sgôp daearyddol a gweithredol unrhyw fesurau i ehangu yn sylweddol os ydyn ni am weld y Gymraeg yn iaith gymunedol, bob dydd mewn cymunedau ym mhob rhan o Gymru.

“Mae problemau tai ar draws Cymru a phobol leol yn methu cael cartref yn eu cymunedau am na allant fforddio tŷ ar y farchnad agored na fforddio i rentu – gan gynnwys mewn cymunedau nad ydyn nhw’n dwristaidd.

“Fydd mesurau i fynd i’r afael ag ail gartefi a llety gwyliau ddim yn ddigon yn yr ardaloedd hynny.

“Yr hyn fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yw Deddf Eiddo gyflawni i reoli’r farchnad agored a grymuso cymunedau lleol ledled Cymru felly.”

Seminar Deddf Eiddo

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal Seminar Deddf Eiddo ym Mae Caerdydd ar Hydref 26 i gyflwyno cynigion ar gyfer Deddf Eiddo.

“Rydyn ni’n galw am Ddeddf Eiddo ers yr 80’au,” meddai Robat Idris wedyn.

“Ers hynny mae problemau tai wedi gwaethygu, ac effaith a dwysedd y broblem wedi dod i amlygrwydd yn fwy diweddar.

“Byddai Deddf Eiddo llawer yn fwy effeithiol ac yn datrys y broblem dipyn yn fwy sydyn na chynlluniau â’r posibilrwydd o wneud rhywfaint o newid ar y mwyaf.

“Felly os ydy’r Llywodraeth o ddifrif am roi cyfle teg i deuluoedd a phobol leol i y cwestiwn nawr yw pa fath o Ddeddf Eiddo gawn ni, a phryd?”

  • Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal Seminar ar ei chynigion am Ddeddf Eiddo yn yr Eglwys Norwyaidd yng Nghaerdydd am 12yp ar Hydref 26