Mae ymchwil yn dangos heddiw (dydd Mercher, Hydref 12) fod angen i wasanaethau cyngor ac arweiniad gyrfaoedd wneud mwy i sicrhau bod menywod ifanc yn cael y cymorth gorau posibl ar yr amser cywir.
Mae’r adroddiad Profiadau Merched Ifanc o Gyngor ac Arweiniad Gyrfaoedd yng Nghymru gan Chwarae Teg yn astudio’r darlun cyfredol o wasanaethau cyngor gyrfaoedd i fenywod ifanc yng Nghymru.
Ond er mawr siom, mae gormod o ddewisiadau gyrfa yn dal i gael eu harwain gan stereoteipiau rhywedd hirsefydlog.
Mae’r duedd hon yn arbennig o amlwg yn newisiadau merched ifanc o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.
Mae’r dylanwad sydd gan stereoteipiau rhywedd dros ddewisiadau gyrfa yn ffactor mawr o ran arwahanu rhywedd yn y gweithle a’r bwlch cyflog ar sail rhywedd parhaus sydd yng Nghymru.
Mae’n hanfodol ein bod yn mynd i’r afael â stereoteipiau rhywedd o oedran cynnar er mwyn sicrhau bod menywod ifanc yn teimlo’u bod yn cael eu cefnogi i ddewis y gyrfaoedd y maen nhw eu heisiau, yn hytrach na’r hyn sy’n cael ei ystyried yn draddodiadol fel “gwaith menywod”.
Yn ffodus, mae gan Gymru eisoes rwydwaith cryf o ddarparwyr gwasanaethau gyrfaoedd a gweithwyr proffesiynol sy’n frwd dros ddarparu cyngor gyrfaoedd da.
Ond mae’r gwaith pwysig mae’r gwasanaethau hyn yn ei wneud wedi mynd yn fwyfwy heriol, gan fod toriadau mewn cyllid wedi’i gwneud hi’n anodd iawn darparu’r cymorth y mae menywod ifanc yn dweud y maen nhw ei eisiau a’i angen.
Pan gawson nhw eu holi, dywedodd 42% o fenywod ifanc eu bod nhw’n teimlo eu bod nhw wedi cael yr hyn oedd ei angen arnyn nhw gan wasanaethau cyngor ac arweiniad gyrfaoedd, o’i gymharu â 26% o fenywod ifanc oedd yn teimlo nad oedden nhw wedi cael yr hyn oedd ei angen arnyn nhw.
Does dim un dull sy’n addas i bawb ar gyfer cyngor ac arweiniad gyrfaoedd sy’n gallu ddiwallu anghenion pob merch ifanc, meddai’r ymchwil.
Mae’n hanfodol felly bod gwasanaethau cymorth gyrfa a gweithwyr proffesiynol cyngor gyrfa yn cael yr offer sydd ei angen ar gyfer rhoi cymorth deinamig a hyblyg sy’n cynnig gwybodaeth am amrywiaeth eang o swyddi.
Mae cyngor a gwasanaethau cymorth gyrfa’n hanfodol er mwyn sicrhau yr eir i’r afael ag achosion sylfaenol a pharhaus anghydraddoldeb rhywedd mewn cymdeithas, yn ôl Chwarae Teg, sy’n dweud bod angen gweithredu er mwyn gwella’r ddarpariaeth a’r nifer sy’n manteisio ar wasanaethau ymhlith merched ifanc.
Mae casgliadau’r ymchwil yn cynnwys yr angen i Lywodraeth Cymru gynyddu buddsoddiad mewn gwasanaethau addysg ac arweiniad gyrfaoedd, ac i ddarparwyr gwasanaethau gefnogi eu gweithwyr proffesiynol drwy ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am ddiwydiannau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg a gwneud hyfforddiant cydraddoldeb a thuedd anymwybodol yn orfodol.
‘Darlun cymysg’
“Mae’r ymchwil hwn yn rhoi darlun cymysg o ba mor dda y mae gwasanaethau cyngor ac arweiniad gyrfa yn cyflawni ar gyfer menywod ifanc yng Nghymru,” meddai Cerys Furlong, prif weithredwr Chwarae Teg.
“Er ei bod yn galonogol gweld bod nifer o fenywod ifanc yn cael yr hyn sydd ei angen arnyn nhw o gyngor ac arweiniad gyrfaoedd, mae digon o le i wella o hyd.
“Mae’n arbennig o siomedig gweld bod stereoteipiau rhywedd yn dal i fod mor ddylanwadol dros ddewisiadau gyrfa merched ifanc, ac yn enwedig y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.
“Mae mynd i’r afael â’r stereoteipiau hyn yn waith i’r gymdeithas gyfan ac mae’n rhaid i ni ymdrechu yn fwy nag erioed er mwyn creu Cymru fwy cyfartal.
“Er gwaethaf ymdrechion darparwyr cyngor gyrfaoedd, mae’n amlwg bod toriadau mewn cyllid wedi’i gwneud hi’n fwyfwy anodd iddyn nhw ddarparu’r gwasanaeth y mae merched ifanc ei eisiau a’i angen. Dyna pam rydyn ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y gwasanaethau hanfodol hyn yn cael eu hariannu’n ddigonol er mwyn cyflawni ar gyfer pawb.
“Dim ond trwy fynd i’r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldebau strwythurol y gallwn ni sicrhau ein bod yn creu’r Gymru decach a mwy cyfartal yr ydym am ei gweld.”
‘Haeddu sgyrsiau a phrofiadau effeithiol’
“Mae merched ifanc yn haeddu cael sgyrsiau a phrofiadau gyrfaoedd effeithiol sy’n diwallu eu hanghenion unigol,” meddai Nikki Lawrence, prif weithredwr Gyrfa Cymru.
“Gall cymorth gyrfaoedd diduedd, cyfannol wedi’i deilwra, a ddarperir gan arbenigwyr gyrfaoedd a rhwydwaith ehangach o athrawon, cyflogwyr, gweithwyr cymorth ac aelodau o’r teulu helpu merched ifanc i godi ei dyheadau, adnabod cyfleoedd a chael yr hyder i gyrraedd eu nodau.
“Yn Gyrfa Cymru, ein nod yw gweithio ar y cyd â sefydliadau eraill sy’n darparu arweiniad a chymorth, er mwyn cynyddu mynediad at wasanaethau, herio stereoteipiau a helpu unigolion i oresgyn rhwystrau sy’n deillio o anghydraddoldebau.
“Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â Chwarae Teg a sefydliadau eraill i barhau i ddatblygu gwasanaethau gyrfaoedd i fenywod yng Nghymru.”
Mae’r Sefydliad Datblygu Gyrfa wedi croesawu’r adroddiad “craff”, yn ôl eu llywydd Carolyn Parry, sydd hefyd yn Gydymaith Prosiect Cymru.
“Fel y corff proffesiynol ar gyfer datblygu gyrfa, mae’r CDI yn croesawu’r adroddiad craff hwn,” meddai.
“Mae’n braf gweld cynnydd wrth herio’r canfyddiad hen ffasiwn o’r proffesiwn gyrfaoedd – gyda mwy o fenywod ifanc yn cydnabod cefnogaeth werthfawr ymarferwyr gyrfaoedd cymwys.
“Fodd bynnag, mae’n amlwg bod mwy i ni ei wneud fel proffesiwn i sicrhau bod pob merch ifanc yn cael addysg, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfaoedd o ansawdd uchel, fel y gallant gyflawni eu potensial.
“Mae’r adroddiad yn nodi’r angen am gymorth gyrfaoedd i ddechrau o oedran cynnar er mwyn atal uchelgais menywod ifanc rhag cael ei gyfyngu gan ystrydebau cyffredinol ar sail rhywedd, yn ogystal â’r angen i ymgysylltu â rhieni ac athrawon, sy’n ddylanwadau sylweddol ym mhenderfyniadau gyrfa menywod ifanc.”