Mae angen ymyrraeth frys i fynd i’r afael â’r diffyg mynediad at ddeintyddion yn ne Gwynedd, yn ôl Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros yr ardal.

Rhaid gweld camau gweithredu brys gan Lywodraeth Cymru, a chymorth wedi’i dargedu, i wella mynediad at ofal deintyddol mewn cymunedau fel Tywyn, Bermo a Phorthmadog, meddai Mabon ap Gwynfor.

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, mae ffigurau triniaethau deintyddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ymhlith yr isaf yng Nghymru, ac yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol.

31.7% o boblogaeth y bwrdd iechyd sy’n derbyn triniaeth.

Mae Ally Kingdon o Abergynolwyn ym Meirionnydd wedi cael eu gwrthod gan ddau ddeintydd lleol gan nad oedd lle ar y rhestr, a nawr mae’n rhaid iddyn nhw aros dwy flynedd i fod ar restr aros deintydd arall yn Nolgellau.

Wrth siarad yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Hydref 11), dywedodd Mabon ap Gwynfor, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, fod ansawdd iechyd y geg pobol yn ei etholaeth yn “debygol o ddirywio os nad oes yna gynnydd yn y ddarpariaeth”.

“Ga’i ofyn fel mater o frys felly i’r Gweinidog Iechyd wneud cyhoeddiad ar ddeintyddiaeth gan sicrhau buddsoddiad yn ne Gwynedd?” gofynnodd Mabon ap Gwynfor.

‘Argyfwng’

Ychwanegodd fod y sefyllfa’n “argyfwng”, a bod pobol yn cael trafferth cael eu derbyn i restrau aros yn ne Gwynedd hyd yn oed.

“Mae clywed gan etholwyr, darllen eu negeseuon a cheisio eu helpu i ddod o hyd i ddeintydd wedi fy arwain i’r casgliad bod angen ymyrraeth ar fyrder i ddiwallu anghenion iechyd deintyddol y boblogaeth leol,” meddai.

“Mae diffyg mynediad at ddeintyddiaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cael effaith sylweddol ar gleifion.

“Yn syml, mae llawer yn colli apwyntiadau; rydym yn clywed am gynnydd mewn pobol yn ceisio trin eu hunain, ac wrth gwrs, mae’r tlotaf yn ein cymdeithas yn dioddef yn anghymesur.

“Mae’r sefyllfa bresennol yn gwbl anghynaladwy. Gwyddom fod archwiliadau deintyddol rheolaidd yn hanfodol, nid yn unig o ran adnabod a thrin pydredd dannedd, ond hefyd o ran adnabod a thrin clefydau mwy difrifol yn fwy cynnar.

“Ond wrth i’r argyfwng costau byw ddyfnhau, mae nifer o’m hetholwyr, gan gynnwys rhai sydd â phlant a rhai ar gyflogau isel, yn gorfod dewis rhwng talu mwy am driniaeth breifat neu arbed arian trwy golli apwyntiadau – gan beryglu eu hiechyd.

“Addawodd Llywodraeth Cymru y byddent yn edrych yn fanwl ar yr hyn sydd angen ei wneud er mwyn gwella profiadau cleifion.

“Galwaf ar y Bwrdd Iechyd lleol a Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael a’r mater hwn ar fyrder – mae dirfawr angen mwy o ddeintyddion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ne Gwynedd.

“Heb ymyrraeth brydlon, ofnaf y bydd iechyd fy etholwyr yn dirywio ymhellach gan arwain at gymhlethdodau ychwanegol y gellir eu hosgoi gyda thriniaeth brydlon.”

‘Aros ychydig yn hwy’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y dylai unrhyw un sy’n cael trafferth dod o hyd i bractis deintyddol sy’n cynnig gwasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn eu hardal gysylltu â’u bwrdd iechyd lleol, a fydd yn eu helpu i ddod o hyd i bractis.

“Rydym yn gweithio ar ddiwygio’r system ac yn gweithio gyda’r proffesiwn deintyddol i wella mynediad, profiad ac ansawdd gofal deintyddol,” meddai.

“Drwy gynllun gofal personol bydd deintyddion yn gallu ymestyn y cyfnod galw’n ôl o’r adolygiad chwe mis traddodiadol, a fydd yn creu capasiti ychwanegol i gleifion sydd angen gofal brys.

“Efallai y bydd yn rhaid i gleifion newydd aros ychydig yn hwy am ofal deintyddol arferol wrth i ddeintyddion weithio drwy’r achosion sydd wedi cronni yn sgil y pandemig, a gweithredu’r broses o ddiwygio deintyddol.”