Mae’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Chwmni Egino i gefnogi datblygiad “prosiect niwclear bychan” yng Ngwynedd.
Yn sgil y Memorandwm, gall yr Awdurdod Datgomisiynu rannu gwybodaeth am y safle yn Nhrawsfynydd, a threfnu’r gwaith datgomisiynu i gyd-fynd â phrosiect niwclear newydd posib.
Cafodd Cwmni Egino ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru y llynedd “er mwyn creu swyddi cynaliadwy a hyrwyddo adfywiad cymdeithasol-economaidd drwy hwyluso datblygiad ar safle’r hen orsaf bŵer” yn Nhrawsfynydd.
Caeodd yr atomfa yn 1993, ac mae gwaith datgomisiynu ar y gweill ers 1995.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi pwyslais ar ynni niwclear fel ffynhonnell ynni gwyrdd, er bod gwrthwynebwyr yn dweud bod darlunio Adweithyddion Modiwlaidd Bach (SMRs) fel ateb i newid hinsawdd yn “gamarweiniol”.
‘O fudd i bobol leol’
Dywed yr Arglwydd Callanan, Gweinidog Busnes, Ynni a Chyfrifoldeb Corfforaethol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, fod gan y berthynas gydweithio sydd wedi cael ei chyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Hydref 11) y potensial i “fuddio economi a diogelwch ynni ein gwlad”.
“Byddai’n sicrhau mwy o ynni cartref fel rhan o gymysgedd ehangach [o ynni], ac yn cyfrannu tuag at ein huchelgais o gynhyrchu 24GW o gapasiti niwclear erbyn 2030.
“Ond bydd hyn o fudd hefyd i bobol sy’n byw o gwmpas Trawsfynydd, sy’n mynd i elwa yn sgil swyddi a allai gael eu creu yn y blynyddoedd nesaf.”
‘Cam pwysig’
Yn ôl David Peattie, Prif Weithredwr yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear, maen nhw’n trafod â sawl rhanddeilydd er mwyn archwilio defnydd posib ar gyfer safle Trawsfynydd.
“Mae hwn yn gam pwysig, sy’n ffurfioli ein cefnogaeth tuag at Gwmni Egino, gan ganiatáu i’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear gwblhau ei nod i ddatgomisiynu ein safleoedd yn ddiogel a rhyddhau’r tir ar gyfer defnydd yn y dyfodol,” meddai.
“Bydd llwyddiant y prosiect yn Nhrawsfynydd o fudd i’r gymuned ger ein safle yng ngogledd Cymru.”
Ychwanega Alan Raymant, Prif Weithredwr Cwmni Egino, fod eu perthynas â’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear “yn hanfodol” er mwyn darparu eu gweledigaeth ar gyfer datblygiad niwclear newydd yn Nhrawsfynydd.
‘Cynhyrchu trydan glân’
Mae Cymdeithas Diwydiant Niwclear y Deyrnas Unedig wedi croesawu’r newyddion hefyd.
“Mae Cymru’n gartref i ddau safle niwclear o safon fyd-eang, a gallai Trawsfynydd chwarae rhan bwysig yn cynhyrchu trydan glân er mwyn torri ein dibyniaeth ar nwy a chryfhau ein diogelwch ynni,” meddai’r prif weithredwr Tom Greatrex.
“O ystyried ei hanes cyfoethog o gynhyrchu ynni di-garbon, mae’r safle yn darged clir i ddatblygwyr ac mae’r cydweithrediad hwn yn dangos bod y diwydiant o ddifrif ynglŷn â chyflawni prosiectau niwclear newydd.”
Cafodd gorymdaith ei chynnal yn ddiweddar gan CND Cymru er mwyn gwrthwynebu unrhyw ddatblygiadau niwclear pellach yn Nhrawsfynydd ac Ynys Môn.
Nid ynni niwclear yw’r ateb i’n “hanghenion ynni nag i fynd i’r afael â newid hinsawdd”, meddai Jill Evans, cyn-Aelod Plaid Cymru o’r Senedd Ewropeaidd a chadeirydd CND Cymru.
Mae gan y grŵp bryderon hefyd am gysylltiad ynni niwclear ag arfau niwclear.