Mae gwrthwynebiad yn cynyddu ym Merthyr Tudful ac mewn pentrefi cyfagos ar ôl i drigolion yr ardal ddarganfod cais i ymestyn oes pwll glo brig Ffos y Frân.

Os caiff y cais ei ganiatáu, byddai’n arwain at fwy fyth o allyriadau sy’n niweidio’r hinsawdd ac yn cael effaith negyddol ar y gymuned leol a’r amgylchedd naturiol, yn ôl Cyfeillion y Ddaear Cymru.

Roedd glofa Ffos y Frân i fod i gau ar Fedi 6 eleni, ar ôl bod ar waith ers pymtheg mlynedd, ond nawr mae Merthyr (South Wales) Ltd, y cwmni sy’n berchen ar y safle glo, wedi cyflwyno cais i Gyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful i ymestyn oes y pwll am naw mis arall.

Pe bai Merthyr (South Wales) Ltd yn llwyddiannus yn eu cais, gallai 240,000 tunnell yn rhagor o lo gael ei gloddio, ac mae’r cwmni wedi nodi yn eu cais y byddan nhw’n defnyddio’r amser hwn i baratoi cais cynllunio arall er mwyn gallu cloddio am lo am dair blynedd arall wedyn – dyna 2.5 miliwn tunnell yn fwy o garbon deuocsid, mwy na’r holl allyriadau o dryciau trwm a bysiau Cymru.

Dim ond yn ddiweddar y cafodd hysbysiadau eu gosod yn yr ardal, a bellach dyddiau’n unig sydd gan y trigolion i wrthwynebu’r cynlluniau i ymestyn y pwll glo, ac maen nhw’n poeni am effaith y llygredd aer a’r llygredd sŵn ar eu hiechyd a’u llesiant.

‘Erchyll – digon yw digon’

“Mae byw drws nesaf i bwll glo yn erchyll – llwch y gwaith cloddio, sŵn y peiriannau cloddio enfawr am 12 awr y dydd,” meddai Chris ac Alyson Austin, sydd ymhlith y trigolion lleol sy’n gwrthwynebu’r cynlluniau.

“Mae’r gymuned yn y fan hon wedi dioddef yn fawr ers sawl blwyddyn, ac rydyn ni’n dal i ddioddef y llwch, ond trigolion Dowlais a Chaeharris sy’n dioddef effeithiau gwaethaf y pwll glo nawr.

“Roedden ni wedi bod yn cyfri’r dyddiau hyd nes y byddai’r pwll glo yn cau a hyd nes y byddai ein bywydau’n dychwelyd i’r drefn arferol.

“Ond nawr, fe allen ni orfod wynebu sawl blwyddyn arall o ddioddefaint. Pryd ddaw hyn i ben?

“Rydyn ni’n benderfynol o wrthwynebu’r estyniad hwn, er budd y trigolion ac er budd dyfodol Merthyr, ac rydyn ni’n gweithio ddydd a nos i roi diwedd ar yr anghyfiawnder hwn.

“Rydyn ni wedi dioddef y pwll glo hwn ers 15 mlynedd; digon yw digon.”

‘Y cais ddim yn gydnaws â pholisïau cenedlaethol’

“Rhaid i’r cais hwn i ymestyn oes Ffos y Frân gael ei wrthod,” meddai Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru.

“Bydd yn arwain at fwy fyth o allyriadau niweidiol i’r hinsawdd, gan effeithio hefyd ar drigolion yr ardal a’u hamgylchedd naturiol.

“Yn y blynyddoedd diweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn gryf nad yw cloddio am ragor o danwyddau ffosil yn cyd-fynd â’n targedau hinsawdd, ac mae polisïau cynllunio a pholisïau glo yn datgan yn glir na ddylid cloddio am fwy o lo yng Nghymru.

“Dyw’r cais hwn ddim yn gydnaws â’r polisïau cenedlaethol hynny, o ran ymdrin â newid hinsawdd, llesiant y gymuned leol na’n cyfrifoldebau byd-eang fel cenedl.

“Rhaid rhoi stop arno.”

Pe bai Cyngor Merthyr yn cymeradwyo’r cais i ymestyn trwydded Ffos y Frân, bydd y cais yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru, fydd yn penderfynu a ddylid bwrw ymlaen â’r cais ai peidio.