Mae Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymeradwyo cynlluniau i ddatblygu dull polisi cynllunio newydd ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn y sir.

Daw hyn wrth iddyn nhw baratoi i gyflwyno premiwm treth y cyngor o Ebrill 1 y flwyddyn nesaf, ac mewn ymateb i ymchwil ar effaith ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr ar farchnadoedd a chymunedai tai ledled Cymru.

Yn sgil yr ymchwil, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfres o fesurau gyda’r nod o ddarparu mwy o reolaethau mewn perthynas â defnyddio eiddo fel ail gartrefi a llety masnachol tymor byr.

Mae’r rhain yn cynnwys rhoi’r gallu i awdurdodau lleol godi hyd at 300% ar y dreth gyngor ar gyfer ail gartrefi, cyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer llety tymor byr a newidiadau i ddeddfwriaeth a pholisi cynllunio.

Yn dilyn yr ymgynghoriad ar ail gartrefi ac eiddo gwag, cyhoeddodd Cyngor Sir Caerfyrddin yn gynharach eleni y bydd yn cyflwyno premiymau treth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag tymor hir, a fydd yn dod i rym o 1 Ebrill 2024.

‘Fframio’r ffordd ymlaen’

Wrth bleidleisio dros ddatblygu dull polisi newydd ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn Sir Gaerfyrddin, mae’r Cabinet wedi caniatáu i’r Cyngor fframio’r ffordd ymlaen.

Bydd datblygu dull polisi cynllunio yn amlygu’r ystyriaethau sylfaenol a’r mecanweithiau posibl i reoli’r newid defnydd digyfyngiad rhwng y dosbarthiadau defnydd newydd o eiddo.

“Mae penderfyniad y Cabinet heddiw yn hollbwysig i sicrhau bod yr Awdurdod yn ymateb i’r newidiadau deddfwriaethol ynghyd â’r goblygiadau a’r effeithiau y mae ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn eu cael ar gymunedau Sir Gaerfyrddin,” meddai’r Cynghorydd Alun Lenny, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau.