Fe fu trigolion Caernarfon yn dathlu Diwrnod Owain Glyndŵr ddydd Sadwrn (Medi 16), gyda gemau, straeon, saethyddiaeth a’r cyfle i wisgo i fyny.

Caiff Diwrnod Owain Glyndŵr ei ddathlu ar Fedi 16 bob blwyddyn, am fod Owain Glyndŵr wedi cael ei ddatgan yn Dywysog Cymru ar Fedi 16 yn y flwyddyn 1400, yn ystod ei wrthryfel mawr i ryddhau Cymru o reolaeth y Saeson.

Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan grŵp Garsiwn y Castell, sef grŵp o ailgreuwyr canoloesol Castell Caernarfon, a dyma’r tro cyntaf i’r digwyddiad gael ei gynnal yng Nghaernarfon.

‘Pawb wedi mwynhau eu hunain’

Deilliodd Garsiwn y Castell o glwb saethyddiaeth Saethwyr y Ddraig Goch yn wreiddiol.

Roedd y grŵp saethyddiaeth yn dod ynghyd i gynnal gweithgareddau yng Nghastell Caernarfon, ac ar ôl penderfynu gwisgo i fyny ar gyfer y gweithgareddau, cafodd grŵp ei greu ar wahân, sef Garsiwn y Castell.

Mae gan y garsiwn tua phymtheg aelod i gyd, ac er eu bod nhw wedi ystyried cynnal digwyddiad i ddathlu Diwrnod Owain Glyndŵr yn y gorffennol, maen nhw’n dweud bod yr amseru ar benwythnos eleni’n gyfle perffaith.

“Mae o’n rhywbeth rydan ni wedi bod eisiau gwneud ers tipyn, ond gan fod y dyddiad yn disgyn ar ddydd Sadwrn eleni, fe wnaeth o weithio’n grêt,” meddai Tecwyn Fôn Ifans, un o aelodau’r garsiwn, wrth golwg360.

“Mi aethon ni at rai o’r siopau ar Stryd y Plas a gofyn a fyddai ganddyn nhw unrhyw ddiddordeb mewn cydweithio ar gyfer cynnal y diwrnod.

“Fe wnaethon nhw gymryd y peth mewn dwy law, gan fod perchnogion y siopau ar y stryd yn aml iawn yn cynnal gweithgareddau rhwng ei gilydd.

“Fe wnaethon nhw gynnal lot o gemau a’r math yna o beth hefyd.

“Ac wedyn, roedd gennym ni be’ rydan ni’n galw’n arddangosfa arfau, ac ychydig o gemau hefyd.

“Rhyngom ni a’r siopau, dw i’n meddwl bod pawb wedi mwynhau eu hunain.”

Cyfle i rannu’r hanes gydag ymwelwyr

Yn ôl Tecwyn Fôn Ifans, roedd y diwrnod yn llwyddiant mawr, ac maen nhw bellach yn gobeithio ei gynnal yn flynyddol.

“Roedd o’n weddol amlwg erbyn tua amser cinio ei fod o’n sicr yn rywbeth y dylen ni drio’i gynnal yn flynyddol, ac efallai ei wneud yn fwy y flwyddyn nesaf a mynd allan i’r Maes,” meddai.

“Roedd y tywydd ar ein hochr ni, a dw i’n meddwl mai dyna pam aeth hi mor dda.”

Un bwriad wrth benderfynu cynnal y digwydd ar Stryd y Plas oedd rhoi’r cyfle i bawb ymuno yn yr hwyl, meddai.

Mae’r grŵp fel arfer yn cynnal eu digwyddiadau yng Nghastell Caernarfon, ond mae’n rhaid talu am fynediad er mwyn ymuno yn y gweithgareddau.

“Fel arfer, ymwelwyr o’r tu allan i Gymru rydan ni’n eu gweld,” meddai.

“Tydi pobol leol ddim yn ymwybodol iawn o’r grŵp, felly roedden ni’n gweld o fel siawns i bawb gael gweld bod y garsiwn yn bodoli.

“Roedd lot o bobol leol wedi dod am dro i weld, yn naturiol.

“Ond roedd yna ymwelwyr o bob cwr o gwmpas hefyd, ac roedd o’n ddiddorol achos roedden ni’n gorfod esbonio pwy oedd Owain Glyndŵr i rai pobol, yn amlwg.

“Roedd yna gymysgedd reit dda yna.”


Dyma flas ar y diwrnod:

Perchnogion rhai o’r siopau ar Stryd y Plas wedi gwisgo fyny ar gyfer y dathliadau.

 

Tylluan sgops wynebwen yn cael ei arddangos ar Stryd y Plas.

 

Rhai o’r ymwelwyr yn cael tynnu lluniau gyda’r criw.

 

Fe wnaeth y criw a oedd yn trefnu ac ymwelwyr wisgo i fyny ar gyfer y digwyddiad.

 

Arddangos offer saethyddiaeth canoloesol ar y strydoedd.

 

Gweithgaredd saethyddiaeth i’r plant.