Mae rhai arwyddion cyflymder 20m.y.a. newydd eisoes wedi’u fandaleiddio mewn rhannau o Gymru, gan achosi dryswch i fodurwyr.
Mae sticeri â’r rhif tri wedi eu gosod dros ben y rhif dau ar rai arwyddion 20m.y.a., sy’n golygu bod modurwyr yn ansicr o’r terfynau cyflymder mewn rhai ardaloedd.
Daeth y polisi 20m.y.a. i rym ddoe (dydd Sul, Medi 17), ac mae Clwyd a Môn ymysg y siroedd lle mae fandaliaid wedi bod yn ymyrryd â’r arwyddion.
Dan y polisi, mae nifer fawr o ffyrdd oedd yn arfer bod â therfyn o 30m.y.a. yng Nghymru wedi’u haddasu i fod â therfyn o 20m.y.a., wrth i Lywodraeth Cymru ddadlau y bydd hyn yn achub bywydau ac yn gwarchod yr amgylchedd.
Ond ymateb cymysg sydd wedi bod i’r terfyn newydd ar y cyfan.
Sticeri ffug a phaent yn creu dryswch
“Croeso i bolisi 20mya anhrefnus Llafur Cymru ym Mangor-is-y-Coed yn Ne Clwyd @wrexham,” meddai’r Aelod Seneddol Ceidwadol dros Dde Clwyd ar X (Twitter gynt).
Rhannodd e lun o arwyddion terfyn cyflymder yn y pentref, gydag arwydd 20m.y.a. ar un ochr i’r lôn a 30m.y.a. ar yr ochr arall.
Bu sefyllfa debyg yn Llanfihangel Talyllyn ym Mhowys, wedi i rywun baentio dros y rhif 2 ar yr arwydd i mewn i’r pentref.
Wrth rannu’r llun yng ngrŵp y pentref ar Facebook, dywed y trigolyn fod “rhywun wedi bod allan a phaentio dros yr arwyddion 20m.y.a”.
“Rydw i’n mynd i grafu’r paent i ffwrdd,” meddai.
“Hoffwn i bobol yrru’n araf drwy’r pentref.
“Mae yna lawer iawn o blant.
“Os oes unrhyw un yn gwybod pwy ydyw, dylent ffonio’r heddlu.
“Y ddwy set o arwyddion ar y brif ffordd i mewn i’r pentref.
“Mae angen i bobol ddeall bod llawer o’r bobol (yn enwedig y rhai sydd â phlant bach) eisiau gweld hyn yn digwydd.”
Dywed un fu’n gyrru trwy Landeilio ddoe fod “arwyddion 20m.y.a. i’r stryd fawr”.
“Ochr y tu allan wedi’i arwyddo yn 40 ond gyda goleuadau stryd ar gyfnodau 200 llath felly’r terfyn cyflymder yw 20 er gwaethaf cael ei gyfeirio at fel 40.
“Dyfalwch ble’r oedd camera cyflymder yr heddlu yn eistedd?”
Problemau gyda’r dull cyflwyno
Mewn edefyn ar X, rhannodd un ei deimladau am y modd y cafodd y terfyn cyflymder ei gyflwyno ar draws y wlad.
“Be’ bynnag chi’n meddwl am egwyddor sylfaenol y polisi, mae rhaid cydnabod fod dull Llywodraeth Cymru o osod y rheol 20m.y.a. yn ei le wedi bod yn fethiant mewn sawl modd,” meddai Owain Rhys Lewis.
“Mae yna amwyster ynghylch lle yn union sydd bellach yn ardal 20m.y.a.
“Dyw’r arwyddion heb eu newid i gyd.
“Mae’r ymgyrch wybodaeth gyhoeddus wedi canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth, heb addysgu’r cyhoedd yn iawn am oblygiadau ymarferol y polisi.
“Yn hytrach, mae gweinidogion wedi treulio’u hamser yn ceisio cyfiawnhau egwyddor y polisi ar sail dadleuon moesol amwys, gan feddwl fod hynny’n ddigonol.
“Mae hyn yn caniatáu i’r pwnc gael ei droi yn rhyfel diwylliant di-ben-draw ac yn gyfrwng i bob math o ddadleuon eraill.
“Nid bai y Llywodraeth yw hyn i gyd.
“Mae’r ymwrthodiad a’r cysyniad o “ddinasoedd 20 munud” yn rhagflaenu hyn ac yn bwnc trafod amlwg ymysg y “dde” digidol.
“Bydd yn ddiddorol gweld be’ ddigwyddith nesa’.
“Fydd pobol yn cadw at y drefn?
“Pa werth i reol os nad yw neb yn ei ddilyn? Gall hynny wneud gyrru yn fwy peryglus?
“A fydd y cynnwrf yn gostegu a phobol yn dod i’w dderbyn neu a fydd hyn yn gyrchfan arall i ymwrthodiad â datganoli?”
Rhybuddio pobol i beidio â dibynnu ar fapiau digidol
Problem arall sydd wedi’i nodi yw nad yw mapiau digidol ar ffonau a theclynnau digidol yn cael eu diweddaru ar unwaith.
Mae hyn yn golygu bod pobol yn dibynnu ar fapiau gyda therfynau cyflymder anghywir all fod yn dangos terfyn o 30m.y.a. mewn ardal sydd wir yn 20m.y.a.
Mae ymchwil yn dangos bod 40% o yrwyr yng ngwledydd Prydain yn dibynnu ar ddyfais loeren (satnav) wrth yrru.
Mae hynny’n cyfateb i fwy nag 20m o yrwyr sy’n dibynnu ar eu satnav am gyfarwyddiadau a gwybodaeth ar y ffyrdd, gan gynnwys terfynau cyflymder.
“Gyda chyfyngiadau cyflymder newydd yn cael eu cyflwyno ledled y Deyrnas Unedig, mae’n hynod bwysig nad yw gyrwyr yn dibynnu’n unig ar eu satnav i gael y terfyn cyflymder,” meddai Tim Alcock o LeaseCar.uk.
“Efallai na fydd y dyfeisiau’n diweddaru ar unwaith, sy’n golygu y gallai modurwyr fod yn teithio 10m.y.a. dros y terfynau newydd.
“Ar hyn o bryd, mae goddefgarwch o 10% a 2m.y.a. yn uwch na’r terfyn cyn i yrwyr wynebu erlyniad am oryrru.
“Os canfyddir eu bod yn teithio ar yr hen derfynau yn y parthau 20m.y.a. newydd, mae gyrwyr yn wynebu dirwyon mor uchel â £1,000.
“Mae angen i yrwyr newydd fod yn arbennig o ofalus oherwydd eu bod yn derbyn cosbau llymach, a gallen nhw o bosibl ddiddymu eu trwydded yrru.
“Er y bydd yn cymryd amser i yrwyr ddod i arfer â’r peth, mae’r cyfyngiadau cyflymder hyn wedi’u cyflwyno i leihau damweiniau a marwolaethau ar ffyrdd Prydain.
“Mae’n rhaid i’r rhai sy’n gyrru yng Nghymru gofio bod y newidiadau yn effeithio ar y rhan fwyaf o ffyrdd 30m.y.a., ond bydd arwyddion terfynau cyflymder ar waith lle mae’r terfyn cyflymder wedi newid.
“Mae’n bwysig fod gyrwyr bob amser yn ymwybodol o’u hamgylchedd, ac yn ymwybodol o arwyddion traffig sy’n rhoi cyfarwyddiadau iddyn nhw i osgoi cael eu dal.”