Ar drothwy’r rali annibyniaeth ym Mangor, mae Prif Weinidog Cymru’n dweud ei fod yn “syniad wedi’i wreiddio mewn ffantasi” y byddai Cymru’n gweithio’n agosach gyda chenhedloedd eraill y Deyrnas Unedig gydag annibyniaeth.
Daeth sylwadau Mark Drakeford yn ystod y sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Medi 19).
Pan ofynnodd Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, iddo a fyddai addewidion y Ceidwadwyr – fel gwrthod cyllid HS2 i Gymru – yn arwain at fwy neu lai o gefnogaeth i annibyniaeth, dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn “syniad sydd wedi’i wreiddio, mewn gwirionedd, mewn ffantasi i gredu y gallem chwalu’r Deyrnas Unedig, gadael y rhannau eraill ac yna dod yn agosach atyn nhw o ganlyniad”.
Daw hyn ychydig ddyddiau cyn y rali annibyniaeth sydd wedi’i threfnu gan fudiad Pawb Dan Un Faner (AUOB Cymru) ym Mangor ddydd Sadwrn (Medi 23).
Y Blaid Lafur yn ‘adfer hawliau’
“Byddai unrhyw un sy’n credu y byddai chwalu’r Deyrnas Unedig yn arwain at berthynas agosach rhwng Cymru a rhannau o’r Deyrnas Unedig, yn siŵr o fod yn hoffi myfyrio ar brofiad Brexit,” meddai Mark Drakeford yn ei ymateb llawn.
“Ydyn ni wir yn credu, drwy adael yr Undeb Ewropeaidd, ein bod ni rywsut yn agosach na chyn i hynny ddigwydd?
“Mae’n syniad sydd wedi’i wreiddio, mewn gwirionedd, mewn ffantasi i gredu y gallem chwalu’r Deyrnas Unedig, gadael y rhannau eraill ac yna dod yn agosach atyn nhw o ganlyniad.
“Dw i’n hapus iawn i fynd ymlaen yn dadlau’r oherwydd dw i’n credu ei fod yn achos sy’n taro tant gyda niferoedd llawer uwch yma yng Nghymru na’r rhai fydd yn mynd allan i orymdeithio efo fo [Rhun ap Iorwerth] eto ym Mangor.
“Mae hynny’n achos dros Deyrnas Unedig sydd wedi’i gwreiddio yng nghredoau’r Blaid Lafur, lle’r ydym yn cyfuno’r holl adnoddau, ac rydym yn rhannu’r holl wobrwyon yn ôl anghenion.
“Mae pobol yn gwybod, trwy fod yn aelod o’r Deyrnas Unedig, fod ganddyn nhw rai hawliau na ellir eu newid – hawliau yr ymosodwyd arnynt dros y ddeng mlynedd diwethaf, ond bydd y Blaid Lafur yn adfer.
“Dyna’r math o undeb yr hoffwn ei weld, a dyna’r math o undeb y bydd y Blaid Lafur yn ei roi o’ch blaen yn yr etholiad nesaf.”
Mark Drakeford yn cwestiynu dyheadau Rhun ap Iorwerth
Yn ystod y sesiwn, fe awgrymodd Mark Drakeford mai yn San Steffan yr hoffai Rhun ap Iorwerth fod, nid yn y Senedd, ond ysgwyd ei ben wnaeth arweinydd Plaid Cymru.
“Ni allaf helpu ond meddwl pe bai arweinydd Plaid Cymru wedi gallu cyflawni ei uchelgais i adael y Senedd a gwneud ei ffordd i San Steffan, byddai wedi cael digon o gyfle i roi’r pwyntiau hyn yn uniongyrchol i Keir Starmer yn lle gorfod gweithredu yn gyson fel pe bawn i’n rhyw ddirprwy am ble yr hoffai fod,” meddai.
“Nid wyf yn credu ei bod yn gwbl annheg tynnu sylw at hynny.”