Mae dros 180,000 o bobol wedi llofnodi deiseb erbyn prynhawn dydd Mawrth (Medi 19), yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud tro pedol ar y terfyn cyflymder 20m.ya. – y nifer fwyaf erioed i lofnodi un o ddeisebau’r Senedd.
Cafodd y ddeiseb ei chreu gan Mark Baker ddydd Mercher (Medi 13).
Roedd dros 100,000 o bobol yn ychwanegol wedi’i lofnodi dros gyfnod o 24 awr, ac mae’r niferoedd yn parhau i gynyddu’n gyflym.
Y ddeiseb oedd wedi llwyddo i gasglu’r nifer uchaf o lofnodion cyn hon oedd honno’n galw am wahardd rasio milgwn yng Nghymru – gyda 35,101 o lofnodion.
Mae’r Pwyllgor Deisebau’n ystyried cynnal dadl ar sail pob deiseb sy’n casglu mwy na 10,000 o lofnodion.
Andrew RT Davies yn herio’r Prif Weinidog
Fe wnaeth Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, herio’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn siambr y Senedd y prynhawn yma (dydd Mawrth, Medi 19) ynghylch y terfynau cyflymder 20m.y.a.
“Gyda deiseb gan y Senedd yn galw am ddileu terfynau cyflymder cyffredinol o 20m.y.a. wedi cyrraedd dros 170,000, mae’r Prif Weinidog yn dal i fwrw ymlaen â chynnig Llafur i roi 36 o wleidyddion arall i’r Senedd ar gost o £120m i drethdalwyr Cymru,” meddai Andrew RT Davies.
Awdiolegydd yn canslo ymweliadau cartref oherwydd y terfyn cyflymder
Un arall o’r Blaid Geidwadol fu’n herio’r Prif Weinidog yn y Senedd yw Tom Giffard.
“Mae deiseb fwyaf erioed y Senedd mewn hanes yn cael ei llofnodi’r wythnos hon, gyda dros 162,000 o bobol a chyfrif yn cofrestru eu gwrthwynebiad i gynllun 20m.y.a. Llywodraeth Lafur Cymru,” meddai.
“Un o’r rhesymau pam fod pobol yn gwrthwynebu’r cynllun hwn yw oherwydd y gost i’n heconomi.
“Mae ffigurau’r Llywodraeth ei hun yn dangos y gallai gael ei daro hyd at £9bn, ac mae pobol yn gwybod na allwn ei fforddio oherwydd, ar ôl 25 mlynedd o Lafur yng Nghymru, rydym ar waelod cynghreiriau ar gyfer ffyniant economaidd.
“Roedden nhw’n arfer bod eisiau anelu at ddod â ni i fyny i gyfartaledd y Deyrnas Unedig.
“Nawr, eu hunig ddyhead yw stwffio 96 o wleidyddion yn y lle hwn.
“Ond os nad yw’r Prif Weinidog am fy nghredu pan ddywedaf y bydd ergyd economaidd, efallai y bydd am wrando ar etholwr i mi sy’n awdiolegydd yn gwneud ymweliadau cartref ledled de Cymru.
“Cysylltodd â mi i ddweud wrthyf, ac rwy’n dyfynnu rhan o’i e-bost:
‘Mae’n cymryd llawer rhy hir o un claf i’r llall, yn defnyddio mwy o danwydd, yn rhy beryglus ar gyfer erlyniad a phwyntiau trwydded. Ni allwn ymweld â chleifion cartrefi gofal mwyach chwaith am yr un rheswm ac rydym wedi eu canslo. Mae nyrsys gofal cartref yn cwyno gan nad ydyn nhw’n cael amser i deithio rhwng galwadau ac yn ei gwneud yn amhosib ffitio pob claf a ddyrennir i mewn’.
“Brif Weinidog, dim ond un busnes yw hynny, ond bydd straeon fel hyn yn cael eu hailadrodd ledled Cymru.
“Ni fydd pobol ledled y wlad yn gallu derbyn y gwasanaethau maen nhw’n dibynnu arnyn nhw, diolch i weithredoedd eich Llywodraeth.
“Felly, a wnewch chi ymrwymo, wrth i’r ddeiseb o 160,000 a mwy ofyn i chi, i ddileu eich cynllun trychinebus 20 mya a’i ddiddymu?”
Ymatebodd y Prif Weinidog drwy ddweud, “Na, Llywydd”.