Ddechrau’r wythnos roedd 150,000 wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu tynnu’r terfyn gyrru lawr o 30 i 20, a dyma’r ddeiseb fwyaf yn hanes y Senedd gyda thua 5% o’r boblogaeth wedi llofnodi.

Rhwng yr holl ddadlau am arafu traffig i 20 milltir yr awr a’r cynllun am fwy o wleidyddion ym Mae Caerdydd, mae’r Cymry mewn perygl difrifol o gymryd diddordeb yn eu Senedd eu hunain.