Mae Elin Jones, Llywydd y Senedd, wedi mynegi ei phryderon fod sawl Aelod o’r Senedd wedi derbyn negeseuon “bygythiol” yn sgil y polisi cyflymder 20 m.y.a.
Mynegodd ei phryderon yn ystod y Cyfarfod Llawn heddiw (dydd Mercher, Medi 20).
Dywedodd fod yna ddyletswydd ar bawb i sicrhau bod trafodaethau cyhoeddus yng Nghymru’n “urddasol ac yn barchus”.
“Rwyf wedi dod yn ymwybodol fod sawl aelod, gan gynnwys fi’n hun, wedi derbyn negeseuon sarhaus a bygythiol dros nos, ar gyfryngau cymdeithasol, e-bost a ffôn, oherwydd eu safbwynt ar y pwnc hwn,” meddai.
“Mae ein staff wedi gorfod delio â llawer o hyn y bore yma.
“Er ei bod yn galonogol gweld diddordeb digynsail yn ein Pwyllgor Deisebau a’i waith, mae gennym ni i gyd ddyletswydd i sicrhau bod trafodaeth gyhoeddus yng Nghymru yn bwyllog, yn urddasol ac yn barchus.
“I ni yn y siambr hon, mae hynny’n golygu gosod y sail ar gyfer sut yr ydym yn disgwyl i eraill fynegi eu barn, beth bynnag eu safbwynt ar y mater hwn neu unrhyw fater arall, a’n bod yn gwneud hynny mewn ffordd sydd ddim yn diraddio nac yn tanseilio unrhyw unigolyn.”
Cwestiynu ymddygiad o fewn y siambr
Yn ôl y Llywydd, bu iddi hefyd dderbyn cwynion am ymddygiad Aelod arall o’r Senedd yn ystod trafodaethau ddydd Mawrth (Medi 19).
“Rwyf wedi cael sylwadau gan un Aelod am ymddygiad Aelod arall yn ystod y trafodaethau ddoe, ac wedi cyfathrebu â’r ddau unigolyn ynglŷn â hynny,” meddai.
“Fe wna i gloi drwy annog yr Aelodau i gadw hyn i gyd mewn cof wrth fynegi eu barn yn y siambr, ac, yn ei dro, ddylanwadu ar sut y mae eraill yn ymddwyn y tu allan i’r siambr hon.”
Daw ei sylwadau wedi i ddeiseb yn gwrthwynebu’r polisi gasglu mwy o lofnodion nag unrhyw ddeiseb arall yn hanes Senedd Cymru.
Mae’r ddeiseb bron â denu 300,000 o lofnodion, ffigwr sylweddol uwch na’r 10,000 o lofnodion sydd eu hangen er mwyn i’r Pwyllgor Deisebau ystyried dadl ar y pwnc.