Byddai cofrestru awtomatig ar gyfer pleidleisio yng Nghymru’n “cael gwared ar rwystrau” i bleidleiswyr, medd Cymdeithas Ddiwygio Seneddol Cymru.
Daw sylwadau eu cyfarwyddwr Jess Blair ar ôl i gynlluniau gan Lywodraeth Cymru nodi y byddai pobol yn cael eu cofrestru’n awtomatig ar gyfer pleidleisio yn etholiadau Senedd Cymru ac mewn etholiadau lleol.
Ar hyn o bryd, mae yna 400,000 o bobol yng Nghymru sydd heb eu cofrestru i bleidleisio.
Dywed Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru – sy’n gyfrifol am y cynlluniau – fod yr ystadegau wedi ei “synnu”.
Does a wnelo’r newidiadau posib ddim â’r cynlluniau i gynyddu maint y Senedd erbyn yr etholiad nesaf yn 2026.
Tra bod Plaid Cymru’n cefnogi’r cynlluniau, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi rhybuddio y gallen nhw achosi “dryswch diangen”.
‘Cael gwared ar rwystrau’
Dywed Jess Blair ei bod hi’n “hanfodol” fod y newid yn cael ei gyfleu’n glir i bleidleiswyr, pe bai’n digwydd.
“Mae arloesedd yn hanfodol i ddod â democratiaeth yng Nghymru i’r 21ain ganrif,” meddai wrth golwg360.
“Gallai cofrestru awtomatig ar gyfer pleidleisio fod yn rhan allweddol o hyn, ac rydyn ni’n falch o weld trafodaethau parhaus ynglŷn â’r gyflwyno yng Nghymru.
“Byddai hyn yn cael gwared ar rwystrau i bleidleiswyr.
“Mae’n hanfodol bod y newid hwn, pan gaiff ei gyflwyno, yn cael ei gyfathrebu’n iawn gyda phleidleiswyr.
“Dylai’r Llywodraeth Cymru fod yn ystyried sut i gyfathrebu’r newidiadau hyn o’r dechrau.”
Mwy yn pleidleisio?
Mae hi’n destun siom fod nifer y bobol sy’n pleidleisio yn etholiadau’r Senedd ac mewn etholiadau lleol wedi bod yn “gymharol isel” yn ddiweddar, meddai Jess Blair wedyn.
Ychydig dros 1.1m o bobol wnaeth bleidleisio yn etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2021, er bod dros 2.3m wedi cofrestru.
“Mae cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig yn rhan o becyn a thrafodaeth ehangach i wella hyn, ond does yna ddim datrysiad sydyn,” meddai Jess Blair wrth drafod y niferoedd sy’n pleidleisio.
“Mae yna nifer o ffactorau ar waith, ond yr hyn sy’n hanfodol yw y syniad o gael gwared ar rwystrau i ddemocratiaeth yn hytrach na’u creu nhw.
“Dylen ni fod yn gweithio tuag at gael gwared ar gymaint o rwystrau â phosib, a gwella’r ddarpariaeth o wybodaeth i ddarpar bleidleiswyr ledled Cymru.
“Mae’r diwygiadau’n cael eu trafod ar amser pan mae’r Senedd newydd weld deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno i gynyddu ei maint, i newid y system bleidleisio ac i newid y ffyrdd sylfaenol mae democratiaeth yn gweithio yng Nghymru.
“Dylen ni i gyd weld y newidiadau hyn fel rhan o becyn fydd yn creu newid sylweddol i’r ffordd mae etholiadau’n cael eu cynnal a’r ffordd mae pleidleiswyr yn ymgysylltu â’n democratiaeth.
“Bydd ein hetholiadau yn 2026 a 2027 yn edrych yn wahanol iawn i etholiadau blaenorol, ac mae’n hanfodol dod â phleidleiswyr efo ni drwy’r newidiadau.
“Bydd cyfathrebu â’r holl bleidleiswyr yn hanfodol i sicrhau llwyddiant yr holl newidiadau hyn.”