Bydd cyfarfod agored yng Nglantwymyn heno (nos Iau, Medi 21) i alw ar Gyngor Sir Powys i beidio â cholli “cyfle euraidd” i dyfu darpariaeth addysg Gymraeg yn y sir, tra bod ad-drefniant yn cael ei ystyried.

Bydd y cyfarfod yn cael ei chynnal yn y ganolfan gymunedol am 7 o’r gloch, ac ymhlith y siaradwyr fydd Gwenllian Lansdown Davies (Mudiad Meithrin), Tegwen Bruce-Deans (Y Prifardd o Landrindod), Elin Haf Gruffydd Jones (Prifysgol Cymru), Toni Schiavone (Cymdeithas yr Iaith), Pete Roberts (Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy’n Dysgu).

Ddoe (dydd Mercher, Medi 20), trafododd Pwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau gynlluniau i ad-drefnu ysgolion yn ardal Llanfair Caereinion, Llanfyllin a’r Trallwng, fydd yn dod gerbron cyfarfod o’r Cabinet yr wythnos nesaf.

“Mae’n amserol bod y cyfarfod agored yn cael ei gynnal wrth i Gyngor Powys gyhoeddi cynlluniau i adolygu trefn ysgolion y sir,” meddai Toni Schiavone, is-gadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith.

“Er ein bod yn croesawu’r bwriad i ddechrau symud ysgol Bro Caereinion ar hyd y continiwwm at fod yn ysgol Cymraeg, mae’n bryder mai prin yw’r sôn yn ehangach am gynyddu darpariaeth Gymraeg.

“Rhaid manteisio ar y cyfle euraidd yma rhag i hawliau plant y sir i dderbyn addysg Gymraeg – a’r cyfleoedd a ddaw yn ei sgil – gael eu hamddifadu.”

Y cyfarfod

Bydd cyfarfod cyhoeddus ‘Dyfodol Addysg Gymraeg ym Maldwyn’ yn trafod potensial yr ad-drefniant, ac yn galw ar Gyngor Powys i ymrwymo i symud ei holl ysgolion ar hyd y continiwwm iaith, yn ogystal â chynyddu darpariaeth ysgolion meithrin Cymraeg a chanolfannau trochi iaith y sir.

Bydd Pete Roberts, yr Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros addysg, yn y cyfarfod i glywed y neges ac i siarad ar ran y Cyngor.

Powys yw sir frodorol Tegwen Bruce-Deans, Prifardd Eisteddfod yr Urdd Tregaron eleni.

Mynegodd hithau ei dyhead am ehangu addysg Gymraeg wrth edrych ymlaen i fynychu’r cyfarfod nos Iau.

“Dw i wedi profi cymaint mae addysg cyfrwng Cymraeg yn gallu cyfoethogi bywyd rhywun, ac mae’n siom enfawr ac yn anghyfiawn nad oes gan mwy o blant ym Mhowys y fraint werthfawr honno yr oeddwn i’n ffodus o’i chael,” meddai.

“Er cael fy magu mewn ardal weddol di-Gymraeg, ges i’r fraint o dderbyn rhan helaeth o fy addysg trwy gyfrwng y Gymraeg ac wedi derbyn cyfleoedd di-ben-draw o ganlyniad; nid yn unig cyfleoedd addysg bellach a gyrfaol, ond profiadau o deithio, cymdeithasu a throchi o fewn ein diwylliant cyfoethog ni.”

Mae’r cyfarfod agored yn rhan o ymgyrch ehangach Cymdeithas yr Iaith i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn pasio Deddf Addysg Gymraeg i Bawb yn ystod y tymor hwn yn y Senedd, fyddai’n gosod nod statudol bod pob plentyn yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050.

 

Cyngor Powys

Fforwm Addysg Gymraeg am drafod y bwriad i droi ysgol ddwyieithog yn ysgol Gymraeg

Yn ôl Elwyn Vaughan, cynghorydd Plaid Cymru, mae’r cynllun yn un “chwyldroadol”
Cyngor Powys

Gallai plant yn Lloegr o deuluoedd Cymraeg gael addysg Gymraeg ym Mhowys

Elgan Hearn (Gohebydd Democratiaeth Leol) ac Alun Rhys Chivers

Daw hyn fel rhan o gytundeb trawsffiniol rhwng Powys a Sir Fynwy yng Nghymru, a Sir Henffordd a Sir Amwythig yn Lloegr

Newid statws iaith Ysgol Bro Hyddgen i fod yn un ffrwd, cyfrwng Cymraeg

Bydd yr ysgol ddwy ffrwd yn cael ei newid yn raddol i fod yn un ffrwd yn unig – i sicrhau bod pob plentyn yn yr ysgol yn ddwyieithog

Newid Ysgol Bro Hyddgen yn ysgol cyfrwng Cymraeg gam yn nes

Cabinet Cyngor Sir Powys wedi cytuno i gyhoeddi hysbysiad statudol yn cynnig y newid yn ffurfiol

Argymell parhau cynllun i droi ysgol yn Gymraeg – er gwaethaf gwrthwynebiadau

Cyngor Powys wadi derbyn llawer o ymateb negyddol i’w bwriad i droi ysgol Machynlleth yn un cyfrwng Cymraeg