Roedd mwyafrif helaeth o bobol wnaeth bleidleisio ym mhôl piniwn golwg360 yn cytuno â’r terfyn cyflymder newydd o 20m.y.a. ar rai o ffyrdd Cymru.
Cafodd y pôl ei gynnal ar ein tudalennau Twitter ac Instagram am 24 awr hyd at neithiwr (nos Fercher, Medi 21).
Daw hyn ddyddiau’n unig ar ôl i’r terfyn newydd gael ei gyflwyno ar rai o ffyrdd Cymru, ac mae eisoes yn hollti barn y genedl.
Ar Twitter, dywedodd 83.8% wnaeth bleidleisio eu bod nhw’n cytuno â’r terfyn, gyda dim ond 16.2% yn erbyn.
Ydych chi'n cytuno â'r terfyn cyflymder 20m.y.a. newydd? 🚗
— Golwg360 (@Golwg360) September 19, 2023
Roedd hynny dipyn yn uwch na’r dwy ran o dair (66%) oedd yn cytuno ar Instagram, gyda dim ond 34% yn ei wrthwynebu.
Pôl tebyg arall
Daw canlyniadau polau golwg360 wrth i Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, gyhoeddi pôl tebyg ar ei dudalen Twitter yr wythnos hon.
Roedd hwnnw’n dangos bod 57.2% o blaid, a 42.8% yn erbyn.
Ond roedd y pôl hwnnw ychydig yn gamarweiniol hefyd, wrth iddo fe awgrymu bod y terfyn yn un “blanced”, ac nid dim ond ar rai ffyrdd oedd yn arfer bod yn 30m.y.a. lle roedd angen gostwng y cyflymder.
Ar y cyfan, mae’r canllawiau’n nodi bod y cyflymder yn gostwng mewn mannau lle mae nifer sylweddol o bobol, tai a busnesau yn debygol o fod, ynghyd â strydoedd lle mae goleuadau stryd.
Wrth gyflwyno opsiwn i anghytuno â’r terfyn, cynigiodd Andrew RT Davies ‘Nac ydw, mae’n wallgof’ fel un ateb posib.