Mae strwythur pren hyna’r byd wedi cael ei ganfod yn Affrica gan dîm o archeolegwyr sy’n rhan o brosiect ar y cyd rhwng prifysgolion Aberystwyth a Lerpwl.
Roedd adeiladu strwythurau o bren yn beth cyffredin hanner miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn ôl yr ymchwil, sydd wedi’i chyhoeddi yn y cyfnodolyn Nature ac sy’n adrodd am gloddio pren gafodd ei gadw mewn cyflwr da ar safle archeolegol Rhaeadr Kalambo yn Zambia ers o leiaf 476,000 o flynyddoedd a chyn esblygiad ein rhywogaeth ein hunain, Homo sapiens.
Mae dadansoddiad arbenigwyr o doriadau ar y pren gan offer carreg yn dangos bod y bodau dynol cynnar hyn wedi siapio a chyfuno dau foncyff mawr i wneud strwythur, sef sylfaen platfform neu ran o annedd.
Dyma’r dystiolaeth gynharaf o unrhyw le yn y byd lle mae boncyffion wedi eu trin yn fwriadol i ffitio gyda’i gilydd.
Hyd yn hyn, roedd tystiolaeth o ddefnydd dynol o bren yn gyfyngedig i’w ddefnydd ar gyfer gwneud tân, ffyn cloddio a gwaywffyn.
Anaml mae pren mewn safleoedd mor hynafol, gan ei fod fel arfer yn pydru ac yn diflannu, ond yn Rhaeadr Kalambo cafodd y goedwig ei gwarchod gan lefelau dŵr uchel parhaol.
Herio’r farn gyffredinol
Mae’r darganfyddiad hwn yn herio’r farn gyffredinol bod bodau dynol Oes y Cerrig yn grwydrol.
Yn Rhaeadr Kalambo, nid yn unig roedd gan y bodau dynol hyn ffynhonnell barhaus o ddŵr, ond roedd y goedwig o’u cwmpas nhw’n darparu digon o fwyd i’w galluogi nhw i setlo a gwneud strwythurau.
Cafodd y gwaith arbenigol o ddyddio’r darganfyddiadau ei wneud gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Cafodd technegau dyddio ymoleuedd newydd eu defnyddio, ac mae’r rheiny’n datgelu’r tro diwethaf i fwynau yn y tywod o amgylch y darganfyddiadau ddod i gysylltiad â golau’r haul, i bennu eu hoedran.
“O ystyried pa mor hen ydyn nhw, mae rhoi dyddiad ar y darganfyddiadau hyn yn heriol iawn ac fe ddefnyddio ni ddyddio ymoleuedd i wneud hyn,” meddai’r Athro Geoff Duller o Brifysgol Aberystwyth.
“Mae gan y dulliau dyddio newydd hyn oblygiadau pellgyrhaeddol – sy’n ein galluogi i ddyddio llawer ymhellach yn ôl mewn amser, i ddod â safleoedd ynghyd sy’n rhoi cipolwg i ni ar esblygiad dynol.
“Roedd y safle yn Rhaeadr Kalambo wedi’i gloddio nôl yn y 1960au, pan gafodd darnau tebyg o bren eu darganfod, ond doedden nhw ddim yn gallu eu dyddio, felly doedd gwir arwyddocâd y safle ddim yn glir tan nawr.”
Mae safle Rhaeadr Kalambo ar Afon Kalambo uwchlaw rhaeadr 235m (772 troedfedd) ar ffin Zambia gyda Rhanbarth Rukwa yn Tanzania, ar ymyl Llyn Tanganyika.
Mae’r ardal ar restr ‘ddrafft’ gan UNESCO ar gyfer dod yn Safle Treftadaeth y Byd oherwydd ei harwyddocâd archeolegol.
“Mae ein hymchwil yn profi bod y safle hwn yn llawer hŷn nag a dybiwyd yn flaenorol, felly mae ei arwyddocâd archeolegol hyd yn oed yn fwy,” meddai’r Athro Geoff Duller.
“Mae’n cryfhau’r ddadl y dylai fod yn Safle Treftadaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig.”
Gwreiddiau dwfn y ddynoliaeth
Mae’r ymchwil yn rhan o brosiect arloesol ‘Gwreiddiau Dwfn y Ddynoliaeth’, ymchwiliad i sut y datblygodd technoleg ddynol yn Oes y Cerrig.
Caiff y prosiect ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau’r Deyrnas Gyfunol, ac roedd yn cynnwys timau o Gomisiwn Cadwraeth Treftadaeth Cenedlaethol Zambia, Amgueddfa Livingstone, Amgueddfa Moto Moto a’r Amgueddfa Genedlaethol yn Lusaka.