Mae disgwyl y bydd Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd ar gau am y rhan fwyaf o 2024 ar ôl i goncrid RAAC gael ei ganfod yno, yn ôl prif weithredwr yr ysbyty.

Cafodd rhan o’r ysbyty ei chau ym mis Awst yn dilyn pryderon am ddiogelwch ar y safle, ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod RAAC wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer rhai o baneli’r nenfwd.

Ar hyn o bryd, mae hanner y wardiau ar gau, yn ogystal â rhannau o’r llawr gwaelod, gan gynnwys y gegin.

Dywed Steve Moore fod y staff wedi gorfod gweithredu o fewn amserlenni tynn er mwyn cadw’r ysbyty i redeg yn sgil y pryderon.

Mae cleifion a staff wedi cael eu symud i ardaloedd eraill o fewn y sir, gyda rhai gwasanaethau wedi’u symud i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin ac i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.

Mae 122 o wlâu wedi cael eu symud o’r wardiau sydd wedi’u heffeithio gan RAAC ac er mwyn ymateb i hyn, mae nifer y gwlâu yn Ysbyty De Penfro wedi codi i 60.

Cymorth ariannol

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi swm o £12.8m er mwyn gwneud y gwaith atgyweirio yn yr ysbyty, a dywed Steve Moore fod cynlluniau yn eu lle ar gyfer y gwaith.

“Defnyddiwyd RAAC fel deunydd adeiladu rhwng y 1960au a’r 1990au ledled y Deyrnas Unedig,” meddai.

“Mae ei ddefnydd yng Nghymru yn rhagflaenu datganoli.”

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n cydweithio â’r bwrdd iechyd er mwyn mynd i’r afael â’r pryderon yn Ysbyty Llwynhelyg.

“Mae llywodraethau’r Deyrnas Unedig wedi bod yn ymwybodol o rai o wendidau RAAC ers y 1990au,” meddai.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a llywodraethau datganoledig eraill ers 2018 i reoli adeiladau gydag RAAC.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i liniaru peryglon RAAC yn Ysbyty Llwynhelyg, er mwyn sicrhau bod y safle’n ddiogel i gleifion, staff ac ymwelwyr.”

“Sefyllfa anghynaladwy”

Yn ôl yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Breseli yn Sir Benfro, mae angen gwneud mwy i fynd i’r afael â’r sefyllfa.

“Mae’r ffaith fod Llwynhelyg wedi gorfod cau hanner ei wardiau a cholli hanner ei welyau oherwydd RAAC yn ddigon anffodus fel y mae,” meddai Paul Davies.

“Nawr y bydd yn rhaid i rannau aros ar gau trwy 2024, mae’n amlwg nad yw’r sefyllfa’n gynaliadwy i’r cymunedau cyfagos sy’n dibynnu ar yr ysbyty.

“Mae hyn yn arbennig o bryderus o ystyried pwysau’r gaeaf a ragwelir.

“Mae angen i’r Llywodraeth Lafur gamu i mewn i helpu i gyflymu’r gwaith adfer fel bod gwasanaethau yn parhau yn Ysbyty Llwynhelyg ac i ni osgoi trychineb gaeafol.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.