Y clyw yw’r synnwyr cyntaf i ddatblygu yn y groth, a dyna pam fod cerddoriaeth yn cael ei defnyddio fel therapi, yn ôl therapydd cerdd sydd wedi bod yn siarad â golwg360.
Gwelodd Elise Gwilym hyn yn enwedig efo’i phlentyn ei hun yn adnabod cerddoriaeth Countdown y gwrandawodd hi arni pan oedd ei phlentyn yn y groth.
Bu Elise Gwilym yn gweithio efo’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol am 14 o flynyddoedd, fel rhan o dîm yn cynnwys seicolegwyr clingol yng Nghanolfan Datblygu Plant ym Mangor, ac yn Therapydd Cerdd yn Nhŷ Gobaith, yr hosbis i blant a phobol ifanc yn y gogledd.
Graddiodd hi mewn Cerddoriaeth o Brifysgol Bangor 1987, cyn mynd yn ei blaen i hyfforddi llais a phiano adref tra bod ei phlant yn ifanc.
Yn 40 oed, gwnaeth hi Ddiploma mewn Therapi Cerdd.
Clywed yn y groth
Wrth i’w clyw ddatblygu, gall babanod adnabod cerddoriaeth yn y groth.
Mae cerddoriaeth yn mynd i bob rhan o’r ymennydd, ac mae gwahanol rannau o’r ymennydd yn gyfrifol am wahanol fathau o ddysgu ac amsugno gwybodaeth.
“Erbyn maen nhw’n 16 i 17 wythnos oed, maen nhw’n gallu clywed,” meddai Elise Gwilym wrth golwg360. “Dydyn nhw ddim yn gallu gweld eto.
“Dydy hwnna ddim yn datblygu nes eu bod nhw’n 23 i 24 wythnos oed.
“Rydym yn hard wired i glywed.
“Maen nhw’n clywed llais y fam pan maen nhw yn y groth, ac maen nhw’n adnabod cerddoriaeth.
“Dywedwch fod y fam wedi bod yn gwrando ar Rownd a Rownd yn rheolaidd, gwnewch chi weld pan mae’r babi wedi cael ei eni ac maen nhw’n clywed y gerddoriaeth yna, maen nhw’n llonyddu ac yn adnabod y gerddoriaeth.
“Gwnaeth hynny ddigwydd i mi.
“Pan oeddwn yn cario’r plentyn cyntaf, Osian, roeddwn yn gwylio Countdown bob dydd.
“Gwnes i roi o o flaen y teledu pan oedd o tua thair wythnos oed, daeth Countdown ymlaen ac aeth o ‘Ah!‘ a jest gwrando ar y gerddoriaeth yma.
“Mae cerddoriaeth yn mynd i bob rhan o’r ymennydd, dim jest rhai rhannau o’r ymennydd fel gweld.
“Mae’n help i greu’r llwybrau niwrolegol rhwng un rhan o’r ymennydd a’r llall.
“Mae rhan chwith yr ymennydd yn delio gyda rhesymeg, rhythm a phatrymau syml.
“Mae ochr dde’r ymennydd yn delio gydag emosiwn, traw a sut rydym yn teimlo, yn fras.
“Yn y blaen, yn y front cortex, mae’r pethau mwy cymhleth fel iaith a rhythmau mwy cymhleth, a chof.
“Mae cerddoriaeth yn cyrraedd pob un o’r rhain, ac yn help i greu naill ai llwybrau niwrolegol newydd neu i gryfhau’r llwybrau sy’n bodoli’n barod.”
Plant yn arwain y therapi
A hithau wedi gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Thŷ Gobaith, mae Elise Gwilym wedi gweithio â phlant a phobol ifanc o bob oedran mewn gwahanol ffyrdd.
“Wrth gwrs roedd y ddwy swydd yn wahanol iawn i’w gilydd,” meddai.
“Roedd yn amrywiol iawn yn Nhŷ Gobaith.”
Dywed ei bod hi’n defnyddio Therapi Cerdd mewn ffordd oedd yn galluogi’r plant i arwain eu therapi eu hunain, a’i bod hi’n “hwyluso” hynny.
“Weithiau roedd yn ddatblygiadol, lle roeddwn yn datblygu sgiliau sgwrsio trwy’r gerddoriaeth,” meddai.
“Gyda’r plant hŷn, y plant yn eu harddegau, roedd yn eu galluogi nhw eto i greu cerddoriaeth ar y cyfrifiadur yn defnyddio Garage Band neu Logic i wneud beth bynnag roedden nhw eisiau ei wneud.
“Yn y gwaith efo Canolfan Datblygu Plant, roedd y plant ar y sbectrwm awtistiaeth ac roedden ni’n gallu eu cael nhw mor ifanc â dwy oed.
“Gorau i gyd y ‘fenga ydyn nhw, oherwydd roedd hynny’n waith datblygiadol.
“Felly bydden ni ar allweddellau, a bydden ni’n hyfforddi Mam neu Dad neu’r prif hyfforddwr un-i-un, er enghraifft sut i gyfathrebu gyda’r plentyn.”
Dau berson yn cael yr un syniad
Gyda phlant ar y sbectrwm awtistiaeth yn aml yn byw “yn eu byd bach eu hunain”, mae clywed a deall cerddoriaeth yr un pryd â rhywun arall yn gallu agor y byd cyfathrebu i fyny iddyn nhw.
“Beth dydyn nhw ddim wedi sylweddoli ydy ei bod hi’n bosib iddyn nhw gael syniad yn eu pen nhw ac i berson arall gael yr un syniad hefyd,” meddai Elise Gwilym wedyn.
“Mae cerddoriaeth yn effeithiol am sawl rheswm.”
Un rheswm yw ei bod yn dysgu plant fod modd i ddau berson gael yr un syniad ar yr un pryd.
“Byddai plentyn a’r fam a’r tad yn dod mewn i’r ystafell, a bydden i’n dweud wrth y rhiant, beth bynnag fyddai’r plentyn yn ei wneud, dywedwch fod y plentyn yn tynnu hosan neu’n tapio’i fys, ‘Gwnewch yr un peth’ i’r plentyn gael deall.”
“Yn raddol, maen nhw’n dod i ddeall dydyn nhw ddim yn bodoli yn eu byd bach eu hunain.”
Adlewyrchu emosiwn
Rheswm arall pam fod cerddoriaeth yn effeithiol yw ei bod yn ennyn emosiwn yn y sawl sy’n gwrando.
“Mewn ffilmiau du a gwyn ar y teledu, rhai rili cynnar, byddai rhywun ar y piano mewn sinema go iawn yn actually creu cerddoriaeth i gyd-fynd â ffilmiau du a gwyn yn wreiddiol,” meddai Elise Gwilym.
“Pwynt y gerddoriaeth oedd adlewyrchu’r emosiwn ac adlewyrchu beth oedd yn digwydd.
“Wrth gwrs, mae popeth yn cael ei recordio dyddiau yma.”
Ond sut mae hynny’n berthnasol i Therapi Cerdd, tybed?
“Beth bynnag fydd y plentyn yn ei wneud, dywedwch ei fod e’n tapio, byddwn ni’n adlewyrchu hwnna yn y gerddoriaeth,” meddai.
Mae’r gerddoriaeth sy’n cael ei ddefnyddio gan Elise Gwilym yn cael ei chyfleu drwy ystumiau – er enghraifft, sut mae rhywun yn cerdded.
“Os yw e’n cerdded gydag egni, mae’r sŵn yn uwch, a thema neu fotif mwy egnïol yn cael ei ddefnyddio,” meddai, gan leisio sut fyddai’r curiadau’n swnio.
“Byddai’r plentyn wedyn yn ymateb i hyn, ac yn trio pethau allan, a’r rhiant hefyd gyda fi’n gwneud yr un peth.
“Roedd gyda fi stoc o fotifs neu themâu cerddorol, ond o fewn hynny roedd yn hollol fyrfyfyr.
“Felly trwy’r amser roeddwn i’n bod yn greadigol iawn ac yn hwyluso’r plentyn, wedyn roedden nhw’n dod lan gyda syniadau newydd.
“Roedd y stages roeddwn yn mynd drwyddyn nhw’n ddiddorol iawn, a dyma’r un sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cynnal sgwrs.
“Beth bynnag roeddwn i’n ei wneud, roeddwn yn ei adlewyrchu fo trwy’r gerddoriaeth.”
Effaith Therapi Cerdd
Gyda Therapi Cerdd yn ffordd effeithiol a chyflym o ddysgu, gall rhieni neu ofalwyr barhau efo’r gwaith adref.
“Roeddwn yn gallu gwneud awr o Therapi Cerdd gyda’r plentyn a’r prif ofalwr,” meddai wedyn.
“I greu’r un un impact heb y gerddoriaeth, byddai hwnna’n cymryd pedair awr o weithio gyda’r plentyn heb y gerddoriaeth, oherwydd mae gyda chi raglenni fel Sun Rise, sy’n gweithio mewn ffordd debyg iawn ond heb y gerddoriaeth.
“Maen nhw’n gwneud o am dair pedair awr ar y tro i gael yr un impact.
“Roeddwn i’n ei wneud o am awr yn yr wythnos, ac wedyn yn gofyn i’r rhieni barhau â’r patrymau o chwarae oedd yn datblygu adref.”
Mae hynny hefyd yn dysgu’r plentyn fod modd dod o hyd i’r un syniad mewn sawl lle, ac nid dim ond o fewn y sesiynau Therapi Cerdd eu hunain, meddai.
“Pan maen nhw’n dechrau cyfathrebu maen nhw’n trio syniadau eraill allan.
“Roeddwn yn gweld y byddwn yn datblygu efallai tri syniad, dywedwch – cerdded, stopio, gorwedd.
“Mewn blwyddyn, efallai y byddai hwnna wedi datblygu’n ddeg, pymtheg, ugain o syniadau yn cael eu hamrywio – syniadau bach.”