Mae rhagor o unigolion a mudiadau wedi datgan eu cefnogaeth i’r ymgyrch i ddiogelu dyfodol cylchgronau a gwefannau Cymraeg a Chymreig sydd wedi’u hariannu gan y Cyngor Llyfrau.

Mae 179 bellach wedi llofnodi’r llythyr, gan gynnwys Cymdeithas yr Iaith, Cymdeithas Llên Saesneg Cymru, PEN Cymru, Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ) a Chymdeithas Awduron Cymru.

Maen nhw eisoes wedi anfon llythyr at Lywodraeth Cymru, Cymru Greadigol a’r Cyngor Llyfrau yn mynegi pryder am y “gostyngiadau enfawr” dros y degawd diwethaf yn y grantiau craidd sydd wedi bod ar gael i gyhoeddiadau.

Mae hynny wedi “effeithio’n andwyol ar amgylchiadau gweithiol yn y sector”, meddai’r llythyr, sy’n rhybuddio bod “holl fodolaeth hyfyw y sector o dan fygythiad gyda chraffu angenrheidiol ar ein democratiaeth ifanc”.

Ymateb i ymateb y Llywodraeth

Wrth ymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu sylw at £135,000 o gefnogaeth ychwanegol i gylchgronau ac mae’r ymgyrchwyr yn dweud eu bod nhw’n croesawu hynny.

“Ond dim ond ar gyfer cylchgronau Cymraeg y mae hyn, a hynny am un flwyddyn yn unig, ac nid yw cylchgronau Cymraeg sefydliedig wedi derbyn ffynonellau digonol o’r gronfa hon er mwyn delio yn sylweddol gyda’r diffyg cyllido a’r amodau gwaith gwael,” medden nhw.

“Er enghraifft, derbyniodd O’r Pedwar Gwynt £34,000 yn flynyddol fel grant craidd, a £10,000 fel un swm o’r gronfa £135,000.

“Cyfeirir hefyd at £200,000 a ddarperir ar gyfer newyddiaduraeth o dan y cytundeb cydweithio Plaid-Llafur fel modd i ateb y materion.

“Ond wrth gwrs, nid oes dim wedi ei addo (hyd yma o leiaf) er mwyn gwella nawdd craidd ar gyfer cylchgronau & gwefannau a ariennir gan Gyngor Llyfrau Cymru.”