Mae’r band Take That wedi cadarnhau y byddan nhw’n dod â’u taith nesaf i Stadiwm Swansea.com yn Abertawe.

Roedd cryn ddyfalu dros y dyddiau diwethaf y bydden nhw’n dod i’r ddinas, ar ôl i logo’r band ymddangos ar sgrîn yn y stadiwm.

Cafodd y daith ei chadarnhau ar BBC Radio 2 fore heddiw (dydd Gwener, Medi 22).

Maen nhw bellach wedi cadarnhau y byddan nhw’n perfformio yng nghartref Clwb Pêl-droed Abertawe a rhanbarth rygbi’r Gweilch ar nos Iau, Mehefin 6 y flwyddyn nesaf.

Byddan nhw’n cael cefnogaeth gan Olly Murs, a bydd tocynnau’n mynd ar werth ddydd Gwener nesaf (Medi 29).

Bydd y triawd yn perfformio pymtheg o gigs yn ystod y daith, sy’n cynnwys nifer o stadiymau pêl-droed.

Mae’r stadiwm yn Abertawe eisoes wedi croesawu’r Arctic Monkeys yn gynharach eleni, ac maen nhw wedi denu enwau mawr eraill dros y blynyddoedd, gan gynnwys The Killers ac Elton John.