Mae un fu’n cydweithio â ffoaduriaid a cheiswyr lloches ar brosiectau celf yn dweud bod creadigrwydd yn cynnig cysur iddyn nhw, yn ogystal â chyfle o’r newydd ar ôl iddyn nhw gael eu gorfodi i fynd yn alltud mewn gwlad estron.
Yn ôl Haf Weighton, artist sydd wedi gweithio ar sawl prosiect gyda Chanolfan Oasis yng Nghaerdydd, maen nhw fel arfer ar dân i ddysgu a gall prosiectau creadigol fod o fudd mawr i rai sy’n dioddef trawma.
Yn ogystal â chael cryn lwyddiant mewn meysydd creadigol, dywed fod rhai ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn gwneud cryn ymdrech i ddysgu Cymraeg hefyd.
“Pan mae pobol yn dod yma fel ceiswyr lloches, maen nhw eisiau bod yn ffoaduriaid,” meddai wrth golwg360.
“Fel ffoadur, rydych yn cael gweithio ac astudio.
“Pan maen nhw’n geiswyr lloches, maen nhw ond yn cael ychydig o arian a dydyn nhw ddim yn cael byw lle maen nhw eisiau byw.
“Pan maen nhw’n dod yn ffoaduriaid, maen nhw’n cael llawer mwy o ddewis.
“Ar ôl rhai blynyddoedd, maen nhw’n gallu cael dinasyddiaeth.”
Prosiectau a phobol greadigol
Fel rhan o’r sesiynau yng Nghanolfan Oasis, anogodd Haf Weighton geiswyr lloches a ffoaduriaid i bwytho’r gair ‘Croeso’ yn eu hieithoedd eu hunain i mewn i ddefnydd, a chafodd y gwaith ei arddangos yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.
Mewn prosiect arall, gweithion nhw ar fapiau a hwythau yn aml iawn ddim yn ymwybodol o’r ardal roedden nhw’n canfod eu hunain yn byw ynddi ar ôl cael eu danfon i Gaerdydd.
“Roedd y prosiect cyntaf yn ymwneud â chroeso,” meddai Haf Weighton.
“Gwnes i annog pobol i bwytho’r gair ‘Croeso’ yn eu hieithoedd nhw i mewn i ddarnau o ddefnydd.
“Roedden nhw wedi creu pedwar darn mawr oedd yn cael eu harddangos yn yr ysbyty yng Nghaerdydd, ac mae’n dal yno.
“Gwnaeth Sain Ffagan gomisiynu fi i wneud darn o waith, lle gwnaethon ni greu lliain bwrdd efo bwyd o dros y byd i gyd.
“Gwnes i un prosiect arall gafodd ei sefydlu gan y Bwrdd Iechyd a hefyd Cyngor Celfyddydau Cymru, lle’r oedd o i gyd i wneud efo mapiau.
“Un peth efo ceiswyr lloches a ffoaduriaid, dydyn nhw ddim yn ymwybodol iawn o le maen nhw yn aml iawn.
“Maen nhw wedi cael eu danfon i Gaerdydd.
“Heblaw am fynd i Oasis i gael bwyd bob dydd, a lle bynnag maen nhw wedi cael eu rhoi i fyw – ac efallai’r ysbyty – dydyn nhw ddim yn mynd i lawer o lefydd, oherwydd does dim trafnidiaeth a dim arian i dalu am deithio.
“Yn aml, maen nhw’n cael eu symud ymlaen i rywle arall, felly maen nhw’n teimlo does dim pwynt iddyn nhw ddod i nabod y lle maen nhw’n byw.”
Sesiynau sy’n aros yn y cof
Gyda phobol dros y byd i gyd wedi cael budd o’r prosiect, mae straeon niferus am ddynion yn pwytho sy’n aros yng nghof Haf Weighton.
“Gyda’r prosiectau rwy’ wedi’u gwneud cynt, roedd llawer efo plant,” meddai.
“Roedd hwn yn llawer o bobol o dros y byd i gyd, llawer o ddynion Mwslemaidd yn eu hugeiniau.
“Doedden nhw heb ddewis gadael eu gwlad; roedden nhw wedi cael eu gorfodi ac yn ffeindio’u hunain yng Nghymru, a theimlo bod hwn yn gyfle.
“Maen nhw’n ceisio yn aml i wneud y gorau o’r cyfle maen nhw wedi’i gael, oherwydd bo nhw wedi cael amser mor wael yn eu gwledydd nhw.
“Roedd llawer o bobol yn dweud wrtha i, ‘In my own country I would never stich anything. Because I’m here I feel I need to try and give it a chance‘.
“Roedd un dyn wedi dysgu sut i bwytho, oherwydd roedd o mewn caethiwed mewn carchar yn rhywle.
“Yn aml, dydy pobol ddim yn dweud eu straeon i gyd wrthoch chi oherwydd bod trawma yn gysylltiedig efo fo.
“Roedd y dyn yma’n dda iawn yn pwytho; adref, yn ei wlad o, doedd o erioed wedi pwytho.
“Roedd yn dweud ei fod wedi dysgu i gadw ei iechyd meddwl yn fwy positif mewn rhyw gyfnod arall yn ei fywyd.
“Doedd llawer o bobol erioed wedi cael eu gofyn i wneud unrhyw gelf, efallai ddim wedi cael addysg fel ni, efallai ddim wedi cael profiad o greadigrwydd ar unrhyw lefel, ac erioed wedi cael eu gofyn i wneud llun neu wneud llun efo pensel.
“Rwy’n cofio’r dyn yma, doedd o ddim yn siarad llawer ac roedd y bachgen bach yma’n gallu cyfieithu lle roedd y dyn wedi bod.
“Dyma’r dyn yn cerdded mewn i’r ganolfan, a dyma ni’n dweud, ‘Would you like to do a drawing?”
“Dyma fo’n dechrau gwneud llun, a dyma fi’n trio esbonio beth oedd y prosiect.
“Dyma rywun yn rhoi bwyd iddo fo, ac roeddech chi’n gallu gweld doedd o ddim yn credu y byddai rhywun yn gallu rhoi bwyd iddo am ddim.
“Wedyn, dyma’r bachgen bach yma’n dechrau siarad efo fi ac yn esbonio: “He’s come all the way from Syria. He’s been on a very very long journey, he’s been living rough on the streets for I don’t know how long and someone came up to him and said actually he has the right to go to the Home Office. He has the right to come here. So he came here and no one’s ever asked him to draw anything before in his life.”
“Dywedais wrth y bachgen bach ei bod hi’n teimlo braidd yn ddwl fy mod i’n gofyn iddo fo dynnu llun ac yntau wedi bod trwy gymaint yn ei fywyd.
“Roedd e’n dweud bod y dyn yn dweud, “No, it’s the kindest thing anyone’s done in a long time”.
“Roeddech yn teimlo bo chi’n rili helpu’r bobol yma trwy ofyn iddyn nhw greu rhywbeth creadigol sydd ddim yn rhywbeth ymarferol o gwbl, ond bo nhw’n dianc o’u bywydau cymhleth nhw.”
Llwyddiannau
Mae nifer o’r dynion y bu Haf Weighton yn gweithio efo nhw wedi cael llwyddiannau mawr yn y byd celfyddydol.
“Mae un o’r dynion rwy’ wedi gweithio efo fo wedi cael ei gomisiynu gan Eisteddfod Genedlaethol Llangollen i greu cân Forocan a Chymraeg,” meddai.
“Mae wedi gweithio efo rhywun sy’n sgwennu caneuon Cymraeg.
“Maen nhw wedi cyd-sgwennu cân, ac wythnos ddiwethaf aeth honna allan.
“Ar y foment, maen nhw’n datblygu cân sydd jest yn Gymraeg.
“Gwnaeth hi enwebu fo i’r Pinc List, sydd yn rhestr o bobol hoyw yng Nghymru.
“Gwnaethon nhw roi o reit ar ben y rhestr yma efo Aelodau o’r Senedd.
“Mae ei stori fo’n reit ddiddorol.
“Mae yna fachgen arall hefyd sydd yn ffotograffydd, ac mae’n dod o Syria.
“Mae o wedi defnyddio’i greadigrwydd yn sylweddol.
“Mae o wedi gweithio efo fi a Dewi Tannatt Lloyd, yn mentora’r bachgen yma sydd tua 23 oed.
“Mae o wedi cyflawni llawer trwy fod yn greadigol.
“Mae o wedi creu’r ffotograffau anhygoel yma, a gwefannau gwahanol i arddangos y gwaith mae wedi’i wneud efo ni.
“Maen nhw’n rili bwerus i edrych arnyn nhw.”
Ceiswyr lloches, ffoaduriaid a’r Gymraeg
A hwythau’n aml yn dod o wledydd sydd â ieithoedd lleiafrifol, mae gan geiswyr lloches a ffoaduriaid yn aml gydymdeimlad â’r Gymraeg ac maen nhw’n mynd ati i geisio ei dysgu.
“Yn Oasis, mae nifer o’r bobol rwy’n gweithio efo nhw wedi bod yn dysgu Cymraeg,” meddai Haf Weighton.
“Mae llawer o barch gyda nhw at yr iaith Gymraeg, rwy’n ffeindio.
“Achos bo nhw’n siarad llawer o ieithoedd, dydyn nhw ddim jest yn meddwl am un iaith.
“Mae llawer o ddealltwriaeth gyda nhw am iaith leiafrifol fel y Gymraeg.
“Mae gyda nhw ddiddordeb dysgu Cymraeg oherwydd bo nhw yma, maen nhw’n teimlo’i fod o’n barchus i ddysgu unrhyw iaith sydd yn y wlad.”