Braf iawn oedd gweld portread o Tesni Peers, y bardd ifanc arloesol o Rhosllannerchrugog, Wrecsam, yn Golwg. Mae Tesni yn un o feirdd amlycaf Rhosllannerchrugog a Wrecsam yn y cyfnod cyfoes, ac yn fodel rôl ardderchog i ddisgyblion ein alma mater ni, sef Ysgol Morgan Llwyd.
Hoffwn felly cywiro camdybiaeth fu yn yr erthygl, yn benodol: “Wedi’i magu ym mhentref Rhosllannerchrugog ger dinas Wrecsam“.
Nawr ‘te. Mae yna dryswch yn gyffredinol wedi bod ynglŷn a ffiniau ‘Wrecsam’. Pwrpas fy ngholofn gyntaf un ar golwg360 oedd archwilio’r mater cymhleth hwn, ac ychwanegais ‘ôl-nodyn’ ar ôl i mi gael rhagor o wybodaeth gan y Cyngor yn ateb fy nghwestiynau.
Ond dros y flwyddyn diwethaf yma, gan gynnwys draw ar Faes Eisteddfod Boduan, mae hi wedi dod yn fwyfwy amlwg fod nifer fawr o bobol dal yn drysu rhwng tref Wrecsam, sir Wrecsam, y ddinas-sir ar ei newydd wedd… ac yn hynny o beth, ym mha ardal y caiff Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2025 ei chynnal.
Fel rhywun o Wrecsam sy’n gwylio’r dryswch hwn, mae’n teimlo weithiau fel fy mod yn byw trwy ryw hunllef Lockwood-aidd drosodd a throsodd, yn methu dianc o’r ‘Groundhog day’ rhwystredig.
Ond yn hytrach na swnian, dyma fi felly yn ymdrechu i fod yn rhan o’r datrysiad trwy geisio esbonio ychydig.
Y tref, y sir, a’r ddinas-sir
Tan 1996, enw tref yn unig oedd ‘Wrecsam’, a hynny o fewn hen sir weinyddol ‘Clwyd’, sef gogledd-ddwyrain Cymru yn ei chyfanrwydd.
Roedd tref Wrecsam yn cwmpasu ardaloedd megis Queensway gan gynnwys Parc Caia, sef lleoliad Ysgol Morgan Llwyd a lle magwyd fy mam, ac hefyd ardal Erddig, lle cefais i fy magu.
Ond yn 1996, cafodd sir ‘Clwyd’ ei diddymu, a’i rhannu’n bedair sir newydd, sef Conwy, Dinbych, Fflint, a Wrecsam. Felly roedd tref Wrecsam bellach o fewn sir Wrecsam. Golygai hyn, felly, fod Rhosllannerchrugog hefyd o fewn sir Wrecsam ond nid, wrth reswm, o fewn tref Wrecsam.
Yna yn 2022, cafodd sir Wrecsam statws dinas – ia, y sir ac nid y dref! Dyma’r dyfyniad oddi ar wefan ‘The Gazzette – official public record’:
“THE QUEEN has been pleased by Letters Patent under the Great Seal of the Realm dated 1 September 2022 to ordain that the County Borough of Wrexham shall have the status of a City.”
Ac felly, mae Rhosllannerchrugog o fewn dinas-sir Wrecsam, ac nid “ger dinas Wrecsam”, fel y dywedwyd yn yr erthygl. Mae hyn yn debyg i’r ffordd mae ardaloedd Tregana a Sblott o fewn ffiniau ddinas Caerdydd, ac, yn wir, yn yr un modd ag y mae Boduan o fewn sir Gwynedd, a hefyd yr ardal a elwir yn “Llŷn ac Eifionydd”.
Yr Eisteddfod Genedlaethol a ‘Wrecsam’
Tra ein bod ni wrthi, waeth i ni glirio fyny unrhyw amwysedd o ran pa ardal sydd wedi cael y fraint o gynnal Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2025: y ddinas-sir sydd â hi, nid yr hen dref!
Mae Cyngor Dinas-sir Wrecsam wrthi nawr yn ystyried lle i leoli’r Maes – lle fydd ein ‘Boduan’ ni, fel petai. Mi ystyriwyd i ddechrau ei leoli yng nghanol y ddinas-sir (ac felly yr hen dref), gan ddefnyddio Tŷ Pawb a llefydd tebyg ar gyfer digwyddiadau; ond sylweddolwyd, wrth ymweld â Maes Boduan, fod angen lleoliad llawer iawn mwy na hyn ar gyfer y Maes.
Ac felly, ar hyn o bryd mi allai Maes Eisteddfod 2025 gael ei leoli unrhyw le o fewn y ddinas-sir – o Gresffordd i Riwabon, o Goedpoeth i Rosymedre, o Farford i Langollen wledig, ac ia, efallai acw yn Rhosllannerchrugog, lle magwyd fy nhad.
Rhaid dweud, erbyn meddwl, fod Eisteddfod drefol, gan ddefnyddio adeilad eiconig Y Stiwt fel canolbwynt, yn apelio’n fawr ata i!
Ond mae’n debyg taw rhywle hefo llond y lle o gaeau gaiff ei ddewis, a’r ffefrynnau felly fyddai rhywle megis Dyffryn Ceiriog neu Erddig. Ac fel un o Erddig fy hun, wedi fy ngeni a fy magu ene, dyma fyddai fy lle perffaith i i leoli Maes Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Wrecsam 2025. Ond bydd rhaid i ni aros am benderfyniad y Cyngor maes o law!
Yn y cyfamser, rwy’ wrthi’n paratoi cyfrol o farddoniaeth fydd yn rhoi sylw i wahanol ardaloedd o fewn wardiau etholiadol dinas-sir Wrecsam, a’r adeiladau, sefydliadau a chymunedau o fewn rheini. Gobeithiaf y bydd hyn o fudd hefyd i’r sawl sydd mo’yn dŵad i nabod yr ardal yn well, a bod yn gliriach am y berthynas rhwng yr hen dref a’r ddinas-sir.
Mae cerdd cyntaf y gyfrol, ‘Oes aur Wrecsam’, ar ffurf cân ac yn hon rwy’n ceisio mapio’r fro mewn ffordd sydd, gobeithio, yn mynd i helpu pobol i ddeall cymhlethdod yr ardal arbennig hon, a hynny mewn da o bryd i’r Brifwyl!