Mae un o adeiladau Prifysgol Aberystwyth bellach yn dwyn enw’r Gymraes gyntaf i gael ei hethol yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol.

Roedd yr Athro F. Gwendolen Rees (1906-1994) yn sŵolegydd ac yn arloesydd ym maes parasitoleg yn Aberystwyth.

Ymddangosodd hefyd yng nghylchgrawn British Vogue yn 1975, fel rhan o ddathliad o fenywod dylanwadol y cyfnod.

Cafodd yr enw newydd ar adeilad Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ar gampws Penglais ei ddadorchuddio mewn seremoni ddydd Gwener (Medi 22).

Mae’r adeilad yn gartref i’r Adran Gwyddorau Bywyd, sy’n edrych ar bynciau y bu’n eu hastudio o 1930 tan ei hymddeoliad yn 1973.

Yn ystod ei gyrfa ac ar ôl ymddeol, cyhoeddodd hi gyfanswm o 68 o bapurau academaidd, gyda’r olaf ohonyn nhw’n ymddangos yn ystod blwyddyn ei phen-blwydd yn 82 oed, pan oedd yn Athro Emerita mewn Sŵoleg.

‘Menyw ryfeddol’

Dywed yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, ei bod yn “bleser dadorchuddio’r plac gydag aelodau o deulu’r diweddar Athro Rees”.

“Rwyf wrth fy modd bod y Brifysgol yn anrhydeddu’r Athro Rees fel hyn,” meddai.

“Roedd hi’n fenyw ryfeddol a wnaeth gyfraniad rhyngwladol i’w maes ymchwil.

“Diolch i’w gwaddol hirhoedlog hi, mae Aberystwyth yn parhau hyd heddiw yn ganolfan sy’n arwain y byd ym maes astudio parasitoleg.”

‘Ysbrydoli myfyrwyr’

Cafodd enw’r Athro F. Gwendolen Rees ei ddewis yn dilyn pleidlais gan staff yr Adran Gwyddorau Bywyd.

“Mae’n fraint o fod wedi cael y cyfle i rannu peth hanes o waith ac addysgu arloesol Gwen heddiw,” meddai Jo Hamilton, Athro Parasitoleg yn yr adran, wrth roi teyrnged i’w rhagflaenydd.

“Efallai nad yw Gwen gyda ni mwyach, ond rydym yn dal i elwa ar ei gwaddol gyfoethog a defnyddio rhai o’i sleidiau cywrain o barasitiaid wrth ddysgu myfyrwyr heddiw.

“Mae’r maes yn parhau yn un o’n cryfderau ymchwil craidd, ac mae gan nifer o’n hacademyddion rolau arwain mewn cymdeithasau parasitoleg rhyngwladol.

“Mae ailenwi’r adeilad hwn nid yn unig yn anrhydeddu un o academyddion mwyaf blaenllaw Cymru, mae hefyd yn nodi carreg filltir arwyddocaol ym mlwyddyn weithredol gyntaf yr Adran Gwyddorau Bywyd.

“Felly bydd gwaddol yr Athro Rees yn parhau i ysbrydoli myfyrwyr trwy ein dysgu a thrwy gyflawni ymchwil arloesol sy’n gwneud cyfraniad gwerthfawr i Gymru a’r byd ehangach.”