Denodd y chweched gorymdaith dros annibyniaeth, dan ofal YesCymru ac AUOBCymru, dros 10,000 o bobol i Fangor heddiw (dydd Sadwrn, Medi 23).
Cerddodd y dorf ar hyd strydoedd Bangor, gyda draig fflamgoch yn eu tywys, cyn ymgynnull ar gyfer yr areithiau yng nghysgod Cadeirlan y ddinas.
Cafodd y dorf ei hannerch gan Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, yr actores Sera Cracroft, y canwr Bryn Fôn, a Joseph Gnabgo o Gymdeithas yr Iaith dan arweiniad yr actores a’r diddanwr Karen Wynne.
Roedd fideos arbennig o gefnogaeth hefyd gan Michelle O’Neill, Is-Lywydd Sinn Féin a darpar Brif Weinidog gogledd Iwerddon, a Dolors Feliu, Llywydd yr ANC (Assemblea National Catalana).
Rali @AUOBCymru #Annibyniaeth yn Mangor heddiw. pic.twitter.com/nMGp1GWceq
— Non Gwenhwyfar (@collgwynfa) September 23, 2023
‘Rhan amlwg o’n disgwrs gwleidyddol cenedlaethol’
“Unwaith, roedd y syniad o annibyniaeth yn cael ei wawdio, ond bellach mae’n rhan amlwg o’n disgwrs gwleidyddol cenedlaethol,” meddai Rhun ap Iorwerth.
“Rwy’n argyhoeddedig mai dim ond pobol Cymru all adeiladu cenedl decach, a’n sbarduno i fod yn llawer mwy uchelgeisiol er mwyn sicrhau dyfodol ein plant a’n hwyrion.
“Tra bod grymoedd San Steffan yn ceisio’u gorau i’n rhwystro, ni allant atal cenedl sydd ar daith tuag at ei lle teilwng yn y byd.
“Ac mae angen inni gyd siarad a thrafod potensial annibyniaeth gyda’n cyfeillion a’n cydweithwyr sydd yn dangos chwilfrydedd, a’u darbwyllo mai annibyniaeth yw yr unig ffordd o sicrhau llwyddiant i’r darn yma o’r ddaear sydd mor annwyl inni oll.”
‘Digwyddiad bythgofiadwy’
Yn ôl Sera Cracroft, roedd yr orymdaith yn “ddigwyddiad bythgofiadwy”.
“Mae’r Ddraig yn symbol o’n hysbryd tanllyd a’n hymrwymiad diwyro i Gymru annibynnol,” meddai.
“Rydym i gyd yn benderfynol bod Cymru yn cael yr hawl i lunio ei llwybr ei hun tuag at annibyniaeth a chreu Cymru gwell ar gyfer pawb.”
Mae’r gorymdeithiau blaenorol yng Nghaernarfon, Merthyr Tudful, Wrecsam, Caerdydd, ac yn fwyaf diweddar Abertawe, wedi denu torfeydd o hyd at 10,000, gan amlygu’r diddordeb cynyddol yn yr ymgyrch dros annibyniaeth.
Rali ac adloniant
Yn dilyn y rali, cynhaliwyd prynhawn o ganu gwerin yn Nhafarn y Glôb ym Mangor Uchaf.
Tra bod y Gig Annibyniaeth yn Pontio, gyda Fleur De Lys, Tara Bandito, 3 Hwr Doeth, a Maes Parcio wedi gwerthu allan.
Fe fu golwg360 yn siarad â Wendy Jones, un fu yn yr orymdaith – cyfweliad Lowri Larsen: