O fachlud haul heddiw (Medi 24) i nos yfory (Medi 25): Yom Kippur yr Iddew. Dydd y Cymod, neu The Day of Atonement. Mae angen at-ONE-ment ar bawb ohonom. Cawn gymorth yn hynny wrth oedi ychydig yng nghwmni un na fu erioed yn hunan-gytûn: Edith Stein.
Mae rhai yn mynd gyda’r llif; rhai yn sefyll yn erbyn y llif, ac mae rhai wedyn yn gwthio yn erbyn y llif. Un felly oedd Edith Stein. Mewn gwirionedd, bu hon yn gwthio yn erbyn sawl llif yn cydlifo. Iddewes yn gwthio yn erbyn gwrth-Semitiaeth Almaen y Natsïaid. Athrylith fenywaidd yn gwthio yn erbyn sefydliad addysgol cwbl wrywaidd. Iddewes yn gwthio yn erbyn yr Eglwys Gatholig; lleian Garmelaidd yn gwthio yn erbyn ei chefndir Iddewig.
Cymeriad eithriadol a chymhleth oedd Edith Stein yn byw mewn cyfnod eithriadol gymhleth. Ganed hi ar ddydd gŵyl Yom Kippur yn 1891; magwyd hi yn Iddewes. Ni fu Edith erioed at one gyda diwylliant a chrefydd ei chyfnod. Nid un i ‘ffitio’ mohoni; adnabyddir hi gan Iddewon fel Edith Stein – Iddewes. Adnabyddir hi gan Gristnogion Catholig fel Teresa Benedicta de Cruce. Bu farw’r ddwy – fel un – yn Auschwitz yn 1942.
Roedd Edith yn ymgorfforiad o orthrwm ac erlid: gorthrymwyd y fenyw ac erlidiwyd yr Iddew. Llwyddodd y gorthrwm i’w hatal rhag mynediad i haen uchaf y sefydliad addysgol; bu’r erledigaeth yn ddiwedd iddi. Ond roedd hynny wedi digwydd i gannoedd os nad miloedd o bobol debyg iddi. Yr hyn sydd yn wahanol am Edith Stein yw bod hon wedi gwthio yn erbyn llif y gorthrwm a’r erlid, ac wrth wneud hynny, wedi gorfodi pobol i weld a chydnabod effaith y ddau beth, ddoe a heddiw.
Bu hon yn wahanol erioed, a’r ymdeimlad o fod yn wahanol yn pwyso fel plwm arni, ac i raddau helaeth iawn mae hon yn nawddsant o fath i’r bobol hynny, am ba reswm bynnag, sydd yn byw a bod rhwng dau fyd. Roedd Edith Stein yn un peth pan ddisgwylid iddi fod yn beth arall, ac oherwydd hynny, llwyddodd i ddangos bod modd bod yn ddau beth yr un pryd.
Daeth trobwynt ym mywyd Edith wedi iddi ddarllen hunangofiant Teresa de Avila (1515-1582). Yng ngwaith Teresa, darganfyddodd Dduw personol. Daeth y pell yn agos iddi. Dyma ddechreuad tröedigaeth Edith Stein. Mae angen gofal yn ein defnydd o’r gair miniog hwnnw, gan nad troi na chael ei throi wnaeth hon, ond plethu’r naill ffydd i’r llall. Safodd gydag un droed ar dir Iddewiaeth a’r droed arall ar dir Cristnogaeth, a methodd neb â’i gwthio neu ei thynnu i sefyll â’i dwy droed ar dir y naill a’r llall.
Mewn cenedl Gristnogol a ganiataodd ddifa pobol yn eu cannoedd a’u miloedd, ildiodd Edith Stein i lif y casineb, a hynny er mwyn tynnu sylw, nid ati hi ei hunan, ond at wallgofrwydd y lladd hwn. Ildiodd iddo o fwriad gan fod yr ildio hwnnw, iddi hi, yn iawn dros bechodau’r Natsïaid a’r diwylliant Cristnogol a greodd amgylchedd addas i’r fath erchylltra ffynnu ynddo.
Pan gyhoeddwyd Edith Stein yn sant (1997-98), bu storm o brotest, a’r brotest honno’n adrodd cyfrolau amdani. Bu Iddewon yn protestio, gan i hon droi at Gristnogaeth. Sut ellid canoneiddio Cristion am farw yn Auschwitz? Beth am y miloedd eraill? Bu Cristnogion yn protestio gan iddi beidio â throi ei chefn ar Iddewiaeth. Sut ellid canoneiddio Iddewes? Mae’r ddadl yn parhau, a pharhau fydd y ddadl gan fod Edith yn sefyll rhwng dau fyd. I raddau, mae pawb yn sefyll rhwng dau fyd, os nad sawl gwahanol fyd! Yn sicr ddigon, safwn rhwng ddoe ac yfory; dim ond heddiw sydd gennym, wir, a dewis tyngedfennol pob heddiw yw beth a wnawn yma nawr: onid dyna at-one-ment?
Mae’r geiriau clo, gan Edith ei hun, yn amlygu’r hyn sydd angen ei wneud heddiw – nawr – ac o wneud hyn, darganfyddwn gyfrinach byw a bod yn hunan-gytûn:
Those who truly love their neighbour will not be unsympathetic and apathetic to their neighbour’s need. Words should inspire action; otherwise, words are mere rhetoric camouflaging nothingness, concealing merely empty or illusory feelings and opinions.
Edith Stein gan Sarah Borden (Bloomsbury, 2010)